Cymraeg
Mae'r lleisiau testun i lafar Cymraeg cyntaf sy'n swnio'n naturiol ar gael i'r cyhoedd o heddiw ymlaen.
Bydd y lleisiau newydd, a ddatblygwyd gan Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion (RNIB) a'r cwmni meddalwedd testun i lafar IVONA, gydag arian gan Lywodraeth Cymru, yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i siaradwyr a dysgwyr Cymraeg sy'n ddall ac â golwg rhannol. Am nad oedd 'llais' Cymraeg ar gael cyn hyn, ni fu'n bosibl i unigolion sy'n dibynnu ar feddalwedd darllen sgrin ddefnyddio cyfrifiaduron i gyrchu gwefan, cyfnewid negeseuon e-bost na darllen nac ysgrifennu dogfennau yn Gymraeg.
Mae Elin Williams, sy'n fyfyrwraig 17 oed, yn un o'r unigolion hynny sy'n edrych ymlaen at ddefnyddio'r lleisiau newydd. Dywedodd: "Mae datblygiad y feddalwedd newydd hon yn gyffrous iawn. Bydd y llais synthetig Cymraeg newydd hwn yn fy helpu i ddefnyddio'r cyfrifiadur yn fy mamiaith. Nid wyf yn byw gartref yng Nghymru, felly un o'r rhesymau rwy'n edrych ymlaen cymaint at ddefnyddio'r feddalwedd newydd hon yw y bydd yn fy ngalluogi i gadw mewn cysylltiad â'm teulu a'm ffrindiau yng Nghymru drwy negeseuon e-bost a Facebook yn fy mamiaith. Bydd y lleisiau newydd hefyd o gymorth mawr i mi yn fy astudiaethau am fy mod yn gobeithio parhau i ddilyn fy nghwrs Safon Uwch mewn Cymraeg. Gan fy mod yn gwneud fy ngwaith ar fy ngliniadur yn bennaf, bydd y llais Cymraeg newydd yn gwneud fy astudiaethau yn fwy hygyrch a bydd yn llawer haws defnyddio'r rhyngrwyd i wneud ymchwil yn Gymraeg hefyd."
Mae'r lleisiau ar gael am ddim i unigolion a sefydliadau anfasnachol a disgwylir iddynt ennyn cryn dipyn o ddiddordeb ymhlith ysgolion a cholegau sydd am ddefnyddio'r lleisiau i gynorthwyo eu dysgwyr.
Dywedodd Ceri Jackson, Cyfarwyddwr RNIB Cymru: "Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu gweithio gydag IVONA a Llywodraeth Cymru i greu'r lleisiau hyn ac, yn well byth, ein bod wedi gallu eu darparu am ddim. Am y tro cyntaf, bydd siaradwyr Cymraeg yn cael yr un cyfle â'u cymheiriaid Saesneg i gyrchu gwefannau a dogfennau electronig. Gyda mwy a mwy o unigolion a sefydliadau yn defnyddio'r rhyngrwyd i rannu gwybodaeth a chyfathrebu â'i gilydd, mae datblygiadau fel y lleisiau hyn yn hollbwysig i sicrhau bod pobl ddall a phobl â golwg rhannol yn cael yr un cyfleoedd â phawb arall."
Mae'r lleisiau ar gael i'w lawrlwytho o wefan IVONA.
English
The first natural sounding Welsh language text-to-speech voices are now available.
Developed by the Royal National Institute of Blind People (RNIB) and text-to-speech software company IVONA, with funding from the Welsh Government, the new voices will make a real difference to blind and partially sighted Welsh speakers and learners. Because of the previous lack of a Welsh language 'voice', people who rely on screen reading software to use computers haven't been able to access websites, exchange emails or read or write documents in the Welsh language.
17-year-old student Elin Williams is one of those looking forward to using the new voices. She said: "I am very excited about the development of this new software. This new Welsh synthetic voice will help me access the computer in my first language. I don't live at home in Wales, so one of the reasons I'm so looking forward to using this new software is that it will allow me to keep in touch with Welsh family and friends through emails and Facebook in my mother tongue. The new voices will also help hugely with my studies as I am hoping to continue with my Welsh A-level. As I do my work primarily on my laptop, the new Welsh voice will make my studies more accessible and will make using the internet for research in Welsh a lot easier as well."
The voices are being made available free to both individuals and non-commercial organisations, and there is expected to be a significant level of interest from schools and colleges wanting to access the voices to support their learners.
Ceri Jackson, Director of RNIB Cymru, said: "I am so pleased that we have been able to work with IVONA and the Welsh Government to create these voices and, even better, to be able to make them available for free. For the first time, Welsh language speakers will have equality of access with their English speaking peers in relation to websites and electronic documents. With more and more individuals and organisations using the internet to provide information and to communicate with each other, developments like these voices are critical to ensure that blind and partially sighted people have the same opportunities as everyone else."
The voices are available to download from the IVONA website.