Shop RNIB Cyfrannwch nawr

Canolfan Trawsgrifio Caerdydd

Trawsgrifio Personol

Boed y lle hudolus yr oedd eich hoff lyfr yn arfer mynd â chi yno, neu atgofion arbennig sydd wedi cael eu cloi mewn llythyrau neu gyfnodolion nad ydych chi’n gallu eu darllen bellach, rydyn ni’n deall pwysigrwydd a phŵer y gair ysgrifenedig a pha mor anodd mae’n gallu bod i chi ddarllen yr hyn rydych chi eisiau, pan fyddwch eisiau.

Mae bywyd bob dydd yn llawn print a gall yr anallu i ddarllen hyn gyflwyno rhwystrau sylweddol i fyw bywyd annibynnol. Gall ein tîm helpu i gael gwared ar y rhwystrau hyn. Gallant eich helpu chi i gadw mewn cysylltiad â’ch cymuned leol, parhau i fynychu grwpiau cymdeithasol a gweithgareddau, mwynhau eich hoff hobi, neu ehangu eich gorwelion drwy addysg neu deithio dim ond drwy gymryd eich print a’i drosi i fformat y gallwch chi ei ddarllen eich hun.

Pa fformatau ydyn ni’n eu cynnig?

  • Sain mewn llais dynol neu lais synthetig a gynhyrchir yn ddigidol, ar CD, CD Daisy, neu fel ffeil mp3
  • Braille
  • Print bras a phrint mawr
  • Testun electronig
  • Diagramau a delweddau cyffyrddol
  • Cerddoriaeth ddalen a sgorau cerddorol hygyrch – Erwydd nodiant a addaswyd.

Faint mae’n ei gostio?

Cynigir y gwasaneth am ddim nawr ond cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth os gwelwch yn dda.

Find out more

Mae’r tîm Trawsgrifio Personol yn Ivybridge yn cynnig cyngor ac arweiniad ar y ffordd orau o ddarparu’r hyn rydych chi ei angen. Ffoniwch nhw ar 01752 690092 neu ebostiwch [email protected] a byddant yn eich helpu drwy’r broses gyfan.

Os ydych chi’n byw yng Nghymru, neu angen trawsgrifio yn y Gymraeg, gall Tîm Trawsgrifio Caerdydd helpu. Cysylltwch â nhw drwy ffonio 02922 749668 / 07534 266186 neu drwy ebostio [email protected].