Llais synthetig Cymraeg

Mae'r lleisiau testun i lafar Cymraeg cyntaf sy'n swnio'n naturiol ar gael.

Man listening to headphone on sofa with headphones on and looking at tablet

Rydym wedi datblygu’r lleisiau yma gyda chwmni meddalwedd testun i lafar IVONA, diolch i arian gan Lywodraeth Cymru. Bydd y lleisiau yma yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i siaradwyr a dysgwyr Cymraeg sy'n ddall ac â golwg rhannol. Am nad oedd 'llais' Cymraeg ar gael cyn hyn o’r un safon, ni fu'n bosibl i bobl sy'n dibynnu ar feddalwedd darllen sgrin ddefnyddio cyfrifiaduron i ddarllen gwefan, cyfnewid negeseuon e-bost na darllen neu ysgrifennu dogfennau yn Gymraeg.
 
Mae'r lleisiau ar gael am ddim i unigolion a sefydliadau anfasnachol a disgwylir iddynt ennyn cryn dipyn o ddiddordeb ymhlith ysgolion a cholegau sydd am ddefnyddio'r lleisiau i gynorthwyo eu dysgwyr.
 

Gwrandewch ar samplau o'r lleisiau:

I ofyn am y lleisiau, anfonwch e-bost i cymru@rnib.org.uk

 

Cwestiynau cyffredin

Chwiliwch ein cwestiynau a ofynnir fwyaf aml i ddod o hyd i'r atebion manwl mae eu hangen arnoch am fudd-daliadau, iechyd llygaid, addysg, cyflogaeth, teithio a llawer mwy.

Chwiliwch CC