Shop RNIB Cyfrannwch nawr

Polisi

Mae RNIB Cymru yn ymgyrchu er mwyn sicrhau bod gwleidyddion yn ymwybodol o anghenion pobl sydd â cholled golwg yng Nghymru, bod Llywodraeth Cymru yn deall yr anghenion hyn a bod hyn yn cael ei adlewyrchu yng ngwaith y pleidiau gwleidyddol.

Ymateb i ymgynghoriadau

Er mwyn dylanwadu ar bolisi a deddfwriaeth, rydyn ni’n ymateb yn rheolaidd i ymgynghoriadau cyhoeddus Llywodraeth Cymru a chyrff perthnasol eraill. Gallwch lawrlwytho rhai o’n hymatebion diweddaraf i ymgynghoriadau isod:

Strategaeth Golwg Cymru

Mae Strategaeth Golwg Cymru yn dod â sefydliadau sy’n rhannu diddordeb ym maes iechyd y llygaid a cholled golwg at ei gilydd, er mwyn cytuno ar gyfres o amcanion a rennir a nodi sut bydd modd cyflawni’r rhain yn ystod y pedair blynedd nesaf.