Shop RNIB Cyfrannwch nawr

Sut gallwch chi gymryd rhan

Cymerwch ran yn y gwaith rydym yn ei wneud i gefnogi pobl ddall ac â golwg rhannol.

Gallech chi ein helpu ni i ymgyrchu dros fyd tecach i bobl ddall ac â golwg rhannol drwy ymuno â'n Rhwydwaith Cefnogwyr Ymgyrchu; gallech ymuno ag RNIB Connect; neu fe allech chi wirfoddoli gyda ni.

Hoffech chi ddod yn gefnogwr ymgyrch RNIB Cymru?

Mae llawer ohonoch chi eisoes yn ymgyrchwyr gweithgar yn eich ardal leol, boed hynny’n herio gwasanaethau lleol ynghylch eu hygyrchedd, yn ysgrifennu llythyrau at eich papurau lleol neu’n siarad â’ch gwleidyddion lleol.

Mae RNIB Cymru yn ymgyrchu i wella gwasanaethau i bobl ddall ac â golwg rhannol ac i atal pobl rhag colli eu golwg yn y lle cyntaf. Rydym yn gweithio gyda gwleidyddion a llunwyr polisïau i ddylanwadu ar ddeddfwriaeth, polisi ac arferion ar lefel leol a chenedlaethol, ar amrywiaeth o faterion, o leihau amseroedd aros offthalmoleg i gael cyhoeddiadau sain ar fwy o fysiau.

Os hoffech chi gymryd rhan yn unrhyw un o’r gweithgareddau canlynol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi:

  • Cwrdd â gwleidyddion lleol neu ddarparwyr gwasanaethau
  • Cymryd rhan mewn digwyddiadau ymgyrchu yng Nghymru
  • Siarad â’r cyfryngau
  • Helpu gydag arolygon

E-bostiwch ni ar [email protected], neu ein ffonio ni ar 029 2082 8500.

Os hoffech chi dderbyn ein cylchlythyr ymgyrchu, gallwch gofrestru yma. Mae ein cylchlythyrau ar gael yn y Gymraeg ac yn Saesneg.