Mae Swyddogion Cyswllt Clinig y Llygaid yn rhoi gwybodaeth a chefnogaeth emosiynol ac ymarferol i gleifion clinigau llygaid. Rhoddir y gefnogaeth hon pan fydd wir ei hangen fel arfer.
Mae'r Swyddogion yn pontio'r bwlch rhwng iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a chymorth cymunedol. Maent yn cyfeirio ac atgyfeirio cleifion i lawer o wahanol wasanaethau sy'n rhoi cymorth i bobl sydd wedi colli eu golwg a'u helpu i fyw'n annibynnol. Datblygwyd rôl y Swyddog i adlewyrchu anghenion pobl, ac mae'n gam mawr ymlaen o ran pontio'r bwlch rhwng gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i bobl ddall ac â golwg rhannol.
Ar hyn o bryd, mae chwe Grŵp o Swyddogion RNIB a ariennir gan y Gronfa Loteri Fawr. Mae'r Swyddogion hyn yn gweithio yn yr ysbytai canlynol:
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am Swyddogion Cyswllt Clinig y Llygaid, cysylltwch â'n prif swyddfa ar 029 2082 8500 neu anfonwch e-bost atom yn [email protected]
Dod o hyd i wasanaethau a sefydliadau lleol sy’n helpu pobl ddall ac â golwg rhannol yn y DU.
Chwiliwch Sightline