Shop RNIB Cyfrannwch nawr

Eich canllaw poced i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd 2021

Bydd etholiadau Senedd Cymru yn cael eu cynnal ar draws y wlad ar 6 Mai. Mae hwn yn gyfle hollbwysig i leisio'ch barn.

Fodd bynnag, rydyn ni’n gwybod bod llawer o bobl ddall ac â golwg rhannol yn ei chael hi'n anodd bwrw’u pleidlais mewn gorsafoedd pleidleisio neu drwy bleidlais bost.  

Dangosodd adroddiad Turned Out mai dim ond un o bob deg pleidleisiwr dall – a llai na hanner y pleidleiswyr â golwg rhannol – oedd yn gallu pleidleisio’n annibynnol, ac yn gyfrinachol, yn Etholiad Cyffredinol 2019. Ar y cyfan, dim ond 46 y cant o bobl ddall ac â golwg rhannol sy'n fodlon gyda'u profiad o bleidleisio.

Bydd etholiad eleni’n wahanol i etholiadau blaenorol, gan y bydd mesurau diogelwch angenrheidiol ar waith oherwydd pandemig COVID-19. Rydyn ni’n gwybod bod llawer o bobl ddall ac â golwg rhannol yn ansicr beth i'w ddisgwyl ac yn poeni sut bydd y mesurau yma’n effeithio ar eu profiad pleidleisio.

Mae RNIB Cymru wedi bod yn gweithio gyda'r Comisiwn Etholiadol i gynhyrchu canllaw poced i bleidleisio, sy'n cynnig cyngor ac awgrymiadau defnyddiol i bleidleiswyr dall ac â golwg rhannol fel eu bod yn gwybod eu hawliau a beth i'w ddisgwyl ar y diwrnod pleidleisio.

Mae'r canllaw poced yma ar gael mewn amrywiaeth o fformatau gwahanol, gan gynnwys print bras, digidol, sain a braille. Ffoniwch ein Llinell Gymorth ar 0303 123 9999 neu e-bostiwch [email protected] i gael copi caled yn eich dewis fformat, neu llwythwch y canllaw i lawr fel PDF. Mae croeso i chi fynd â'r canllaw gyda chi ar y diwrnod pleidleisio i gyfeirio ato.  

Byddwn yn parhau gyda'n gwaith gyda'r Comisiwn Etholiadol i godi ymwybyddiaeth o'r rhwystrau sy'n wynebu pleidleiswyr dall ac â golwg rhannol ac i wella hyfforddiant ar gyfer staff gorsafoedd pleidleisio. Rydyn ni hefyd yn ymgyrchu dros welliannau i'r system bleidleisio er mwyn ei gwneud yn hygyrch ac yn gynhwysol i bobl ddall ac â golwg rhannol.