Shop RNIB Cyfrannwch nawr

Blog Cwpan Rygbi’r Byd – rhan 3

Mae guru rygbi RNIB Cymru, Gareth Davies, yn un o sêr tîm rygbi bobl â cholled golwg yn y DU sy’n cystadlu ar hyn o bryd yng Nghwpan y Byd yn Japan. Gareth sy’n ein diweddaru ynglŷn â hynt a helynt y tîm.

“Helo, Gareth sy’ yma gyda thrydedd ran - rhan olaf - fy mlog rygbi o Gwpan y Byd yn Japan!

Yr wythnos ddiwetha' gwahoddwyd y tîm i wylio’r gêm rhwng Japan a De Affrica. Er ein syndod fe gyhoeddwyd i’r dorf bod ein tîm ni yno, felly fe gododd ein sgwad ar eu traed yn y fan a’r lle a chael cymeradwyaeth fyddarol gan y stadiwm gyfan. Yn anffodus fe gollais i hyn – roeddwn wedi dewis aros yn y gwesty a gwylio gêm Cymru!

Cawsom ddigonedd o amser i weld y wlad yn ystod y dyddiau diwethaf, a’r hyn sydd wedi fy nharo yw bod cludiant cyhoeddus yn Japan mor gyfleus. Mae’r arwyddion mewn gorsafoedd yn hynod glir a rhwydd eu darllen, ac mae’r gorsafoedd trên eu hunain gymaint yn oleuach nag ydyn nhw ym Mhrydain. Gan fod gen i Retinitis Pigmentosa, mae hyn yn gymaint o help ac yn gwneud byd o wahaniaeth. Does dim rhaid dweud fod y palmentydd cyffwrdd sydd ym mhobman yn fy syfrdanu! Mae fy nghyd chwaraewyr wedi dechrau gwneud hwyl ddiniwed am fy mhen oherwydd fy mrwdfrydedd ynghylch hyn.

Mae’r awyrgylch cyffredinol yn Tokyo yn wahanol iawn i’r hyn yw e mewn dinasoedd gartre yn enwedig pan ddaw’n fater o rannu gofod. I ddinas mor brysur gyda phoblogaeth sydd dair gwaith yn fwy nag un Cymru mae’n teimlo gymaint yn dawelach na llefydd fel Llundain. Yr un nifer o bobl sydd yma ond mae gymaint yn fwy hamddenol - dim codi lleisiau a chanu corn. Rhaid bod hyn yn cael effaith gadarnhaol ar lefelau straen pan ddaw’n fater o deithio trwy strydoedd prysur.

Yn ddiddorol, mae pobl yn reidio beiciau ar y palmentydd yma, ond dyw hynny ddim cymaint o broblem ag yw e gartre. Roedd hyn yn syndod i mi. Mae beicwyr ar y palmant yn rhywbeth rwy’n ei gasáu, ond pan fydd pobl yn beicio ar y palmant yma maen nhw’n mynd heibio i chi yn araf iawn. Mae’n teimlo’n llawer haws ei reoli ac yn dangos parch. Mae’r cyfan yn ymwneud â chyflymder bywyd yma, mae pobl ychydig yn arafach wrth fynd o A i B. Byddai’n anodd iawn efelychu hyn ym Mhrydain ond yn sicr mae yma wersi i’w dysgu! Mae’r ffaith fod y Japaneaid yn paratoi ar gyfer Chwaraeon Olympaidd a Pharalympaidd 2020 hefyd yn helpu gan ei fod wedi creu llawer o gyfleoedd i’r wlad ddysgu am hygyrchedd a chwaraeon Rhai â Nam ar eu Golwg.

Mae’n taith i Japan wedi bod yn agoriad llygad ac yn ysbrydoliaeth. Daethom yma i chwarae rygbi ond hefyd cawsom ddysgu cymaint mwy am hygyrchedd mannau cyhoeddus a’r cyfleoedd sydd yna i wella nôl gartref. Roedd y ffaith inni ennill ein gemau i gyd hefyd yn fonws!

Diolch am ddilyn fy nhaith Cwpan Rygbi’r Byd!

Gareth.”