Shop RNIB Cyfrannwch nawr

Blog Ansley: Cefnogaeth colled golwg ar Ddiwrnod Strôc y Byd

Mae pandemig y coronafeirws wedi hawlio’r penawdau eleni, ond nid yw problemau iechyd difrifol eraill wedi diflannu.

Ar Ddiwrnod Strôc y Byd eleni (Hydref 29ain), mae RNIB Cymru yn codi ymwybyddiaeth o'r effaith y gall strôc ei chael ar lesiant a golwg pobl.

Bydd tua 7,400 o bobl sy'n byw yng Nghymru yn cael strôc bob blwyddyn. Mae'r rhan fwyaf ohonom ni eisoes yn gwybod y gall goroesi strôc adael pobl â phroblemau cyfathrebu, gwendid yn y cyhyrau, poen a blinder. Ond oeddech chi'n gwybod y gall strôc effeithio ar eich golwg hefyd?

Amcangyfrifir bod dwy ran o dair o bobl yn dioddef problemau gyda’r golwg ar ôl strôc. Os effeithir ar rannau penodol o'r ymennydd, gall hyn achosi problemau gan gynnwys colli meysydd y golwg, golwg dwbl neu aneglur a gall hefyd effeithio ar brosesu golwg. Fel effeithiau eraill strôc, gall problemau golwg wella gydag amser wrth i'r ymennydd wella, ond bydd rhai pobl yn cael eu gadael gyda cholled golwg parhaol.

Mae bod yn ofidus yn normal pan fyddwch chi wedi cael diagnosis o golled golwg. Gall llawer o newidiadau ddigwydd yn eich bywyd chi mewn cyfnod byr, ac efallai y byddwch yn poeni am y dyfodol. Mae’r RNIB yn gwybod pa mor anodd y gall y newid hwn fod, ac mae yma i'ch helpu chi bob cam o'r ffordd.

Mae ein Gwasanaeth Cynghori ar Golled Golwg yn cynnig amrywiaeth o gyngor a help ymarferol, o gwnsela i adsefydlu, neu ddim ond clust gyfeillgar. Gall ein cynghorwyr cymwys ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi am strôc a cholled golwg, a gallant gynnig awgrymiadau ar wneud y gorau o'r golwg sydd gennych chi ar ôl. Ffoniwch 0303 123 9999 neu anfonwch e-bost i [email protected].

Yn olaf, cofiwch fod strôc yn fwy cyffredin mewn pobl dros 65 oed ond gall effeithio ar unrhyw un ar unrhyw adeg. Os ydych chi’n meddwl eich bod yn cael strôc, ffoniwch 999 ar unwaith i leihau eich risg o niwed hirdymor.