Shop RNIB Cyfrannwch nawr

Blog Ansley: Cymerwch ofal da o’ch llygaid yn ystod yr Wythnos Iechyd Llygaid Genedlaethol

Wrth i ni i gyd addasu i’r “normal newydd”, mae’n bur debyg bod iechyd llygaid wedi mynd yn eithaf isel ar ein rhestr ni o flaenoriaethau.

Mae hyn i’w ddisgwyl, wrth gwrs – tan yn ddiweddar, mae’r rhan fwyaf o optometryddion wedi bod yn cynnig gwasanaethau cyfyngedig, mae apwyntiadau heb fod yn rhai hanfodol wedi cael eu gohirio ac mae’r rhan fwyaf ohonom ni wedi bod yn nerfus braidd am fynd i ysbyty neu glinig.

Ond oeddech chi’n gwybod bod llawer o bethau y gallwch chi eu gwneud nawr i leihau eich risg o golled golwg? Rydyn ni’n gwybod mai ein golwg ni yw’r synnwyr rydyn ni’n ofni ei golli fwyaf, ond does gan y rhan fwyaf ohonom ni ddim syniad bod gennym ni bŵer i warchod a diogelu ein golwg.

Ar hyn o bryd yng Nghymru, mae amcangyfrif o 121,000 o bobl yn byw gyda cholled golwg, ffigur y mae disgwyl iddo ddyblu erbyn 2050, a gyda 50 y cant o golled golwg yn bosib ei osgoi, mae’n gwneud synnwyr cael archwiliad llygaid a gofalu am eich llygaid.

Yn ystod yr Wythnos Iechyd Llygaid Genedlaethol (21 i 27 Medi), fe fyddwn i’n hoffi gweld darllenwyr y papur yma’n ymrwymo i’r camau syml hyn i helpu i gadw eu llygaid yn iach:

  1. Trefnwch apwyntiad llygaid! Mae profion llygaid yn fwy na dim ond cyfle i gael sbectol newydd neu lensys cyffwrdd; maen nhw’n archwiliadau hanfodol ar gyfer eich llygaid. Mae optometryddion yn derbyn archebion eto nawr. Drwy fynychu byddwch yn sicrhau bod unrhyw arwyddion o glefyd ar y llygaid yn cael eu canfod yn fuan.
  2. Gwisgwch eich sbectol haul! Er bod y gaeaf yn agosáu, dylech warchod eich llygaid bob amser pan rydych chi allan yn yr haul, heb edrych yn uniongyrchol i’r haul o gwbl. Rhowch ddau funud i wneud yn siŵr bod gan eich sbectol haul nodau CE, BS ac UV400 sy’n dangos bod ganddynt y lefel briodol o warchodaeth uwch-fioled. Os nad oes ganddynt hynny, mae’n esgus perffaith i fachu rhai newydd yn y sêls!
  3. Byddwch yn ymwybodol o hanes eich teulu! Mae glawcoma’n gyflwr y mae posib ei drin a’i reoli o’i ganfod yn gynnar. Gall fod yn etifeddol, felly os oes gan aelodau o’ch teulu y cyflwr, rhaid i chi gael prawf llygaid yn fwy rheolaidd.
  4. Glanhewch eich lensys cyffwrdd! Defnyddiwch doddiant glanhau sydd wedi’i baratoi’n fasnachol bob amser wrth lanhau eich lensys. Peidiwch byth â defnyddio dŵr tap neu ddŵr wedi’i ddistyllu, na phoer. Os nad ydych yn cadw at drefn lanhau fanwl, gall eich llygaid gael eu heintio ac rydych chi’n wynebu risg o glefyd ar y cornea, neu golli llygad hyd yn oed. Peidiwch â chysgu yn eich lensys cyffwrdd oni bai fod eich optegydd yn cynghori hynny.
  5. Bwytewch yn dda! Mae deiet iach yn hynod fuddiol, nid dim ond i’ch golwg ond i’ch iechyd yn gyffredinol. Gall gwrthocsidyddion helpu i gadw eich llygaid yn gweithio’n iach. Gwnewch yn siŵr eich bod yn bwyta digon o wyrddni deiliog fel cêl a sbigoglys a hefyd ffrwythau a llysiau lliwgar fel moron, orennau, pupur melys a chorn. Ymhlith y bwydydd eraill sydd â llawer o wrthocsidyddion ac y mae’n werth eu hychwanegu at eich rhestr siopa mae wyau, brocoli a physgod olewog fel eog, tiwna a macrell.
  6. Byddwch yn egnïol! Mae bod yn fwy egnïol a chael digon o ymarfer yn gallu gwella eich iechyd yn gyffredinol, gan leihau eich risg o ddatblygu cyflyrau sy’n gallu cael effaith ar iechyd eich llygaid, fel diabetes Math 2, pwysedd gwaed uchel a chaledu neu gulhau ar y rhydwelïau.
  7. Stopiwch ysmygu! Efallai bod hyn yn eich synnu chi ond, ar ôl heneiddio, ysmygu yw’r ail ffactor risg fwyaf i ddatblygu un o’r prif achosion o golled golwg, dirywiad macwlaidd. Hefyd mae ysmygu’n cynyddu eich siawns o ddatblygu cataractau.
  8. Gwarchodwch eich llygaid! Gall glanhau, DIY a garddio fod yn beryglus i gyd i’ch llygaid chi felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwisgo offer llygaid gwarchodol.

Gyda’r pwysau ychwanegol sydd ar ein gwasanaeth iechyd yn ystod y cyfnod yma, mae’n hynod bwysig ein bod yn gofalu amdanom ein hunain gystal ag y gallwn ni.