Shop RNIB Cyfrannwch nawr

Blog Ansley: Mae’n iawn peidio â bod yn iawn, mae RNIB Cymru yma i helpu

Wrth i'r gaeaf agosáu a dim diwedd o hyd i’w weld i'r pandemig sydd wedi rheoli 2020, mae'n ddealladwy bod angen ychydig o gymorth emosiynol ychwanegol ar lawer ohonom ni.

Mae tîm RNIB Cymru wedi bod yn gweithio'n agos gyda chymuned ddall ac â golwg rhannol Cymru ac mae wedi cael ei galonogi gan eu hangerdd i helpu eraill, gan gydnabod bod y pandemig wedi gwaethygu'r heriau presennol ac wedi creu rhai newydd.

Roedd dydd Sadwrn Hydref 10fed yn Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd, diwrnod pwysig i’n hatgoffa ni bod angen i bob un ohonom ofalu am ein gilydd – a ni ein hunain – pan fydd pethau'n mynd yn anodd.

Felly, fe hoffwn i gynnig ychydig o opsiynau i unrhyw un sydd angen ychydig o help a chefnogaeth yn ystod y cyfnod yma:

  • Mae ein grwpiau ffôn Siarad a Chefnogaeth yn ffordd wych o gysylltu â phobl eraill â cholled golwg, rhannu profiadau a dod o hyd i gefnogaeth. Rydyn ni’n paru grwpiau bychain o unigolion gyda'i gilydd ar gyfer sgyrsiau cyffredinol, gyda staff neu wirfoddolwyr cymwys yn hwyluso'r grwpiau.
  • Mae ein grŵp Facebook RNIB Connect Cymru yn lle gwych i siarad â phobl eraill â cholled golwg ar-lein. Mae aelodau'r grŵp yn cyfnewid cyngor defnyddiol, geiriau o gefnogaeth a fideos doniol drwy’r amser – mae rhywbeth i bawb yma.
  • Mae llawer o wybodaeth ac awgrymiadau defnyddiol ar gael ar ein gwefan ni ac mae staff cyfeillgar ein Llinell Gymorth yn barod i dderbyn eich galwad rhwng 8 ac 8 o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9 ac 1 ar ddydd Sadwrn.
  • Gan gydnabod effaith y pandemig ar iechyd meddwl pobl, rydyn ni nawr yn cynnig gwasanaeth iechyd meddwl brys dros y ffôn. Mae'r gwasanaeth ar gael tan fis Mehefin 2021 ac mae'n darparu ymyriad cyflym i unrhyw un sy'n profi pryder a straen difrifol o ganlyniad i'r pandemig. Bydd pawb sy’n ffonio’n cael siarad un i un gyda chwnselydd i rannu teimladau, dod o hyd i strategaethau ymdopi ar gyfer eu problemau cyfredol ac edrych ar anghenion cefnogi pellach.
  • Mae gennym ni hefyd wasanaeth cwnsela a lles rheolaidd ar gyfer pobl sydd angen help yn y tymor hwy. Gall y sesiynau gael eu cynnal ar-lein neu dros y ffôn ac maent am ddim i gyd. Mae ein tîm ni’n deall effaith colli golwg a gallant gynnig llawer iawn o wybodaeth am holl gyflyrau'r llygaid.

Rydyn ni eisiau sicrhau nad oes raid i unrhyw un sydd â cholled golwg ddioddef ar ei ben ei hun. Mae pobl ddall ac â golwg rhannol yn haeddu'r un disgwyliadau o ran lles y meddwl â phawb arall. Dyma pam y bydd RNIB Cymru yma bob amser.

Os hoffech chi wneud defnydd o unrhyw rai o’n gwasanaethau cwnsela neu gyfeillio cyfrinachol, ffoniwch ein Llinell Gymorth ni ar 0303 123 9999 o ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 8pm, ac ar ddydd Sadwrn rhwng 9am ac 1pm neu anfonwch e-bost i [email protected].