Shop RNIB Cyfrannwch nawr

Blog Ansley: RNIB Cymru yn lansio maniffesto ar gyfer etholiad Senedd Cymru

Mae ein maniffesto’n galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i wneud Cymru’n wlad heb rwystrau ar gyfer pobl â cholled golwg.

Mae COVID-19 wedi gwneud llawer o’r problemau mae pobl ddall ac â golwg rhannol yn eu hwynebu eisoes mewn bywyd o ddydd i ddydd yn waeth, ond mae hefyd wedi dod â rhai o agweddau gorau ein cymdeithas ni i’r amlwg. Rydyn ni’n credu y gall yr haelioni ysbryd yma arwain at greu cymdeithas fwy cyfartal a chynhwysol ar gyfer pobl â cholled golwg ac anableddau eraill.

I’n helpu ni i greu Cymru lle nad oes unrhyw rwystrau i bobl â cholled golwg, mae RNIB Cymru yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i ymrwymo i bum peth:

  1. Blaenoriaethu rhoi terfyn ar golled golwg diangen drwy gyflymu’r gwaith o drawsnewid gwasanaethau gofal llygaid.
  2. Goresgyn y rhwystrau amgylcheddol mae pobl ddall ac â golwg rhannol yn eu hwynebu yn ein trefi a’n dinasoedd ac ar ein strydoedd. Dylai pobl â cholled golwg allu byw, teithio a mwynhau’r un cyfleoedd â phawb arall.
  3. Mynd i'r afael â’r loteri cod post sy’n gysylltiedig â Gwasanaethau Adfer Golwg. Dylai pob person sydd wedi cael diagnosis o golled golwg, ble bynnag mae’n byw, allu cael y gefnogaeth y mae arno ei hangen er mwyn gallu byw yn ddiogel a chwarae rhan lawn mewn cymdeithas.
  4. Ymgorffori arferion gwybodaeth hygyrch yn y GIG a gwasanaethau cyhoeddus ehangach. Dylai pobl â cholled golwg dderbyn gwybodaeth mewn fformat sy'n gweithio iddynt hwy, fel hawl a heb frwydr.
  5. Creu cymdeithas decach a mwy cyfartal drwy ddiwygio’r ffordd mae’r sector cyhoeddus yn gweithio gyda phobl anabl. Bydd mynd ati’n rhagweithiol i gynnwys pobl anabl mewn prosesau cynllunio o’r camau cynharaf yn adnabod ac yn cael gwared ar rwystrau cyn iddynt gael eu rhoi yn eu lle, gan greu cymdeithas decach a mwy cyfartal i bawb.

Rhaid i’r 121,000 o bobl sy’n byw gyda cholled golwg ledled Cymru gael eu cefnogi a’u grymuso i fyw bywydau llawn, iach ac annibynnol. Mae gennym ni gyfle gwirioneddol nawr i greu newid ledled y genedl, a sefydlu gwaddol parhaus sydd o fudd i’n cymdeithas gyfan.

Mae RNIB Cymru yn edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth nesaf Cymru i greu Cymru heb rwystrau.