Shop RNIB Cyfrannwch nawr

Cadw’n heini a iach yn ystod y cyfyngiadau yng ngwyneb COVID-19: Blog Dan

Dyma Dan Thomas o Gaerdydd yn rhannu ei syniadau am sut i aros yn heini a iach yn ystod y cyfyngiadau presennol.

“Cyn y cyfyngiadau yr oeddwn i’n ymarfer lot o Ju Jitsu Brasiliaidd, sydd wedi ei seilio ar bobl yn trio dal eich gwrthwynebydd ar y llawr. Nawr dwi wedi gorfod ail feddwl y ffordd dwi’n cadw’n heini.

“Mae’n anodd i bobl dall a rhai sydd gyda golwg rhannol i fynd mas. Gall fod yn anodd gwybod os dwi’n llwyddo i aros digon pell o fobl eraill yn nhermau pellhau cymdeithasaol (social distancing). Ond mae lot o ffyrdd gellid gwneud ymarfer corff adref. 

“Un o’r pethau yr ydw i’n ei wneud i gadw fy hyn yn heini yw gwrando ar lyfyr llafar tra dwi’n cerdded o'gwmpas yn fy nhy. Mae’n bwysig parhau i symyd y corff. Gen i mat ioga a kettle bell a mae rhain yn gymorth er mwyn ymarfer corff, ond mae hen ddigon o bethau gellid defnyddio o amgylch y ty os nad oes gennych chi yr offer yma.

“Gallwch trio pethau fel, codi gwrthrychau trwm, efallai llenwi bag cefn gyda llyfrau, ei wneud tua 10 neu 12 cilo a gwneud reps, codi, gwneud push ups a sgwotio. 

“Adnodd gwych baswn i yn argymell ar gyfer cadw’n ffit ydi’r app “Blind Alive”. Ganddyn nhw amrywiaeth o sesiynau sain gwahanol sy’n eich arwain drwy ymarfer corff cardio, dumbbells, ioga, ag ymestyn – a mae nhw am ddim i’w lawrlwytho a cael mynediad iddo drwy eich cyfrifiadur neu dyfais clyfar. Dwi’n hoffi gwneud llawer o stwff gyda pwysau’r corff fel push ups, sit ups, plancio, a dyw rhain ddim angen unrhyw offer.

“Mae cymaint o fanteision i ymarfer corff. Mae’n rhoi nod i chi. Nes i ddechrau trwy gwneud 10 munud ar y cross trainer ac yna dwi’n gwneud pull ups ar y pull up bar ondnawr dwi’n gwyneud 20 munud o cardio ac yn cynyddu fy ffitrwydd. Mae’n teimlo’n wych i gadw’n heini. Y ffordd i lwyddo efo sefydlu arferiad o gwneud ymarfer corff yn gyson yw i ffeindio rhywbeth rhydych yn mwynhau gwneud. 

“I’r rhai ohonoch chi sydd yn teimlo straen y cyfyngiadau, cofiwch na fydd hyn yn para am byth. I feddwl bydd hyn yn darfod yw’r cysur gorau sydd. Cofiwch cadw’n bositif a triwch peidio gwylio gormod ar y newyddion neu social media gan nad ydi hyn am roi meddwl iach i neb. A cofiwch i aros yn heini!”