Shop RNIB Cyfrannwch nawr

Diwrnod y Llyfr 2019: Cyngor Llyfrau Cymru’n cyhoeddi dau deitl i helpu dathlu darllen gyda phlant

Mae Diwrnod y Llyfr ar fin cyrraedd, ac fel rhan o’r dathliadau ar 7 Mawrth mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cyhoeddi teitlau dau lyfr arbennig yn Gymraeg i blant a fydd ar werth am £1 yn unig.

Y Cyngor sy’n cydlynu ymgyrch Diwrnod y Llyfr yng Nghymru gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Y llynedd oedd y tro cyntaf i lyfr Cymraeg gael ei gynnwys yn yr ystod arbennig o lyfrau am £1. Eleni, bydd y teitlau Cymraeg hefyd ar gael am y tro cyntaf ar ffurf llyfrau llafar, braille a phrint bras, diolch i gefnogaeth RNIB Cymru.

“Rydym wrth ein bodd i fod yn rhan o Ddiwrnod y Llyfr eleni. Mae’n ffordd wych o annog plant i ddarllen,” meddai Emma Jones, rheolwraig drawsgrifio RNIB Cymru. “Gall plant sydd wedi colli’u golwg fwynhau llyfr da yn union fel unrhyw blentyn arall. Mae’r fersiynau braille, print bras a sain yr ydym wedi’u creu yn sicrhau bod plant dall a rhannol ddall yn gallu darganfod y straeon hyn a rhannu cyffro’r diwrnod arbennig hwn.”

Er mwyn derbyn fersiwn hygyrch o Na, Nel! Un tro … a Darllen gyda Cyw cysylltwch â llinell gymorth yr RNIB drwy ffonio 0303 123 9999 neu ebostio [email protected]

Y ddau lyfr Cymraeg ar gyfer eleni yw Na, Nel! Un tro ... gan yr awdur o Aberystwyth Meleri Wyn James, a Darllen gyda Cyw gan Anni Llŷn, sydd yn cynnwys rhai o gymeriadau poblogaidd S4C. Mae’r ddau deitl wedi’u cyhoeddi gan y Lolfa.

Mae Diwrnod y Llyfr yn ddathliad byd-eang, gyda thros 100 o wledydd yn hyrwyddo’r manteision o ddarllen i bobl o bob oed. Dengys ymchwil fod darllen yn gallu cael effaith sylweddol ar lwyddiant addysgol plant, ac mae annog plant a phobl ifanc i ddarllen yn bwysicach nag erioed.

Meddai Angharad Sinclair, Rheolwr Cynlluniau Hyrwyddo Darllen y Cyngor: “Y llynedd oedd y tro cyntaf i ni allu cynnig teitl Cymraeg i blant ar gyfer Diwrnod y Llyfr. Unwaith eto, rydym yn falch iawn o weithio mewn partneriaeth â’r Lolfa i adeiladu ar lwyddiant 2018 a chynnig dau deitl ar gyfer Diwrnod y Llyfr 2019. Roedd Na, Nel! Un tro ... yn boblogaidd iawn y llynedd ac mae’n wych gallu cynnig Darllen gyda Cyw i’n cynulleidfa iau. Mae’r llyfrau hyn yn fargen am £1 yn unig, neu’n rhad ac am ddim gyda thocyn llyfr, ac maen nhw’n gyflwyniadau gwych i’r ddwy gyfres o lyfrau gwreiddiol a chyffrous.”

Y Lolfa sy’n cyhoeddi Darllen gyda Cyw gan Anni Llŷn, gyda darluniau gan Debbie Williams. Mae’n dilyn hanes Cyw a’i ffrindiau sydd â’u cyfres ddyddiol ar S4C ar gyfer plant 3–6 oed. Daw’r awdur Anni Llŷn, Bardd Plant Cymru 2015–2017, o ardal Pwllheli’n wreiddiol ond erbyn hyn mae’n byw yng Nghaerdydd. Mae wedi ysgrifennu llyfrau eraill i blant gan gynnwys Pi-po Cyw a Cyw ar y Fferm, yn ogystal â llyfrau ar gyfer plant hŷn. Mae’n wyneb cyfarwydd ar raglenni S4C.

“Fy llyfr diweddaraf yw hanes rhyfeddol Cyw a’i ffrindiau’n mwynhau llyfrau newydd gyda’i gilydd,” meddai Anni. “Mae pob ffrind wedi dod o hyd i lyfrau gwahanol i’w darllen ac wedi sylweddoli y gallwch chi ddarllen unrhyw bryd ac yn unrhyw le! Rwy wastad wedi mwynhau ysgrifennu a defnyddio fy nychymyg, ac rwy’n edrych ymlaen yn arw at dreulio Diwrnod y Llyfr 2019 mewn ysgol yn y gogledd yn darllen ac ysgrifennu gyda phlant.”

Mae Na, Nel! Un tro ... gan Meleri Wyn James, gyda darluniau gan John Lund, hefyd wedi’i gyhoeddi gan y Lolfa. Stori’n dilyn anturiaethau merch ddireidus, sef prif gymeriad y gyfres, yw hon. Mae Meleri’n enwog am ei llyfrau ar gyfer plant ac oedolion ac yn gyn-enillydd Medal Lenyddiaeth Eisteddfod yr Urdd.

“Mae hi mor bwysig bod rhieni’n neilltuo amser i ddarllen gyda’u plant a bod digon o lyfrau i’w gweld o gwmpas y tŷ,” meddai Meleri. “Ewch â’ch plant i’r llyfrgell neu i’r siop lyfrau i weld pa fath o lyfrau sy’n eu denu nhw. Pan oeddwn i’n tyfu i fyny, roeddwn wrth fy modd gyda llyfrau T. Llew Jones yn Gymraeg a chyfres Secret Seven Enid Blyton yn Saesneg. Rwy’n dal i wirioni ar storïau dirgelwch!

“Byddaf yn treulio Diwrnod y Llyfr yng nghwmni plant ysgol yn trafod fy llyfr diweddaraf. Rwy wrth fy modd bob tro y caf gyfle i annog plant i ddarllen a dangos eu bod nhw hefyd yn gallu ysgrifennu eu storïau bach nhw eu hunain.”

Ar 7 Mawrth bydd dathliadau’n cael eu cynnal ledled y wlad i nodi’r diwrnod, gan gynnwys gweithgareddau a chystadlaethau ar y cyfryngau cymdeithasol. Bydd taith y Sioe Lyfrau Fwyaf hefyd yn gyfle cyffrous i gannoedd o blant ysgol fwynhau cwmni eu hoff awduron wrth iddyn nhw sôn am eu gwaith. Bydd Meleri Wyn James ac Anni Llŷn yn rhan o’r sioe Gymraeg yn Pontio, Bangor (6 Mawrth), yng nghwmni Bardd Plant Cymru Casia Wiliam, yr awdur Meilyr Siôn a’r darlunydd Huw Aaron. Bydd y sioe Saesneg yn yr Hafren, y Drenewydd (7 Mawrth), gyda chyfraniadau gan Lucy Owen, Eloise Williams, Claire Fayers, P. G. Bell a Max Low.

Diwrnod y Llyfr yw’r elusen gofrestredig sy’n gyfrifol am ddathliad blynyddol mwya’r byd o safbwynt llyfrau plant, gan ddathlu manteision darllen er pleser, hyrwyddo’r hud sydd rhwng cloriau llyfrau, hyrwyddo grym y dychymyg a phwysleisio pwysigrwydd rhannu straeon. Mae ymchwil OECD yn dangos mai darllen er pleser yw’r ffactor mwyaf allweddol o ran llwyddiant plentyn, yn fwy nag amgylchiadau teuluol, cefndir addysgol neu incwm rhieni. Eto, mae’n arfer sydd yn dirywio. Mae Diwrnod y Llyfr yn anelu at droi’r llanw, gan annog teuluoedd a gofalwyr ledled y DU ac Iwerddon i ddarllen er pleser gyda’u plant am 10 munud ar Ddiwrnod y Llyfr – a phob diwrnod o’r flwyddyn – er mwyn rhoi cyfleoedd newydd iddynt a thrawsnewid eu byd.