Shop RNIB Cyfrannwch nawr

Gwirfoddolwr yng Ngogledd Cymru yn annog pobl â cholled golwg i gadw mewn cysylltiad yn ystod y coronafeirws

Mae Faye Jones, o Gaergybi, yn annog pobl â cholled golwg i gadw mewn cysylltiad yn ystod cyfyngiadau’r coronafeirws drwy ymuno â grwpiau cymdeithasol dros y ffôn RNIB Cymru.

Cafodd Faye ddiagnosis o ddirywiad macwlaidd 12 mlynedd yn ôl. Ers hynny mae wedi helpu i drefnu grwpiau Cymraeg ar gyfer pobl ddall ac â golwg rhannol ledled Cymru ac mae’n credu eu bod yn hanfodol ar gyfer cynnal lles emosiynol.

Yn 2019 cafodd Faye wobr Point of Light gan y Prif Weinidog i gydnabod ei grwpiau Gwau a Sgwrsio, sy’n dod â gwirfoddolwyr sy’n gweld a phobl ddall ac â golwg rhannol at ei gilydd i wau a chymdeithasu.

Hefyd sefydlodd fenter unigryw ar Ynys Môn, Grŵp Llyfrau Llafar RNIB Cymru, sy’n cynnwys pobl sydd â cholled golwg yn cyfarfod i ddarllen a thrafod llyfrau. Ar hyn o bryd, mae’r ddau grŵp yn cael eu cynnal dros y ffôn.

Dywedodd Faye: “Rydw i’n angerddol am sicrhau bod pobl â cholled golwg yn yr ardal yn teimlo’n ynysig. Mae cadw mewn cysylltiad a mwynhau sgwrs dda mor bwysig, yn enwedig yn ystod y cyfnod anodd yma.

“Rydw i eisiau i bobl â cholled golwg ledled Cymru wybod bod ganddynt le i sgwrsio, cynnig cyngor a rhannu straeon doniol mewn grŵp cyfeillgar a chroesawus.

“Efallai bod llawer o bobl yn teimlo’n bryderus neu’n colli cyswllt cymdeithasol yn ystod y pandemig. Mae grwpiau ffôn yn ffordd wych o greu cysylltiadau cymdeithasol pwysig a ffurfio cyfeillgarwch.

“Dydyn ni ddim yn siarad am y coronafeirws yn y grŵp a dweud y gwir. Ein nod ni bob amser yw cael hwyl a chanolbwyntio ar y pethau positif mewn bywyd. Rydw i bob amser yn teimlo’n well ar ôl pob galwad.”

Mae RNIB Cymru yn cynnig amrywiaeth o grwpiau ffôn ledled Cymru yn addas i bob oedran a diddordeb. I ymuno â grŵp ffôn RNIB Cymru neu i drafod sefydlu grŵp newydd yn eich ardal, cysylltwch ag Eleanor Rothwell ar 07702821915 neu e-bost[email protected].

Hefyd rydym yn derbyn atgyfeiriadau i’n gwasanaeth ffôn cyfeillio Siarad a Chefnogi cenedlaethol. Mae’r grwpiau’n cael eu cynnal yn wythnosol am gyfnod o 6 i 12 wythnos. Gwnewch gais drwy Linell Gymorth yr RNIB 0303 123 9999 neu e-bost [email protected].