Shop RNIB Cyfrannwch nawr

Maniffesto RNIB Cymru ar gyfer etholiadau 2021 y Senedd

Bydd chweched tymor Senedd Cymru yn agor yn erbyn cefndir pandemig byd-eang y coronafeirws.

Y dasg a fydd yn wynebu’r Senedd hon fydd ailadeiladu Cymru yn dilyn y digwyddiadau digynsail a’i rhagflaenodd. Wrth i ni edrych tua’r dyfodol, y cwestiwn allweddol i Lywodraeth nesaf Cymru fydd: Sut gallwn ni greu normal newydd sy’n gweithio i bawb?

Mae ein maniffesto yn datgan y camau allweddol sy’n ofynnol i wneud Cymru yn gymdeithas fwy cynhwysol; cymdeithas heb rwystrau sy’n grymuso pobl â cholled golwg i fyw yn annibynnol, gyda’r gwasanaethau iechyd yn atal colled golwg y gellir ei osgoi a gofal cymdeithasol prydlon yn cael ei ddarparu pan nad oes modd osgoi hynny, ac anghenion pobl ddall ac â golwg rhannol yn cael eu hystyried a’u llais yn cael ei werthfawrogi yn y prosesau gwneud penderfyniadau.

Rydyn ni’n galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i roi sylw i’r pum pwnc allweddol yn ein maniffesto. Mae’r camau’n syml ac yn ymarferol a’r costau’n gymharol, ond byddai’r budd i gymdeithas yn bellgyrhaeddol ac yn ddwys:

  • Blaenoriaethu rhoi terfyn ar golled golwg y gellir ei osgoi. Dylid gweld pob person sydd ar restr aros am apwyntiad brys mewn clinig llygaid yn brydlon er mwyn osgoi colled golwg anadferadwy.
  • Goresgyn y rhwystrau amgylcheddol mae pobl ddall ac â golwg rhannol yn eu hwynebu. Dylai pobl â cholled golwg allu byw, teithio a mwynhau’r un cyfleoedd â phawb arall.
  • Mynd i'r afael â’r loteri cod post sy’n gysylltiedig â gwasanaethau adfer golwg. Dylai pob person sydd wedi cael diagnosis o golled golwg, ble bynnag mae’n byw, allu cael y gefnogaeth y mae arno ei hangen er mwyn gallu byw yn ddiogel a chwarae rhan lawn mewn cymdeithas.
  • Ymgorffori arferion gwybodaeth hygyrch yn y GIG a gwasanaethau cyhoeddus ehangach. Dylai pobl â cholled golwg dderbyn gwybodaeth mewn fformat sy'n gweithio iddynt hwy, fel hawl a heb frwydr.
  • Arwain y ffordd ym mholisi cydraddoldeb y DU drwy ddiwygio'r ffordd mae'r sector cyhoeddus yn cynnwys pobl â cholled golwg a phobl anabl eraill.

Ymunwch â’r sgwrs ar gyfryngau cymdeithasol – #CymruHebRwystrau.