Shop RNIB Cyfrannwch nawr

Pobl hŷn yn Ymdopi'n Well ar draws Cymru - lansio gwasanaeth newydd i gadw pobl yn ddiogel ac annibynnol yn eu cartrefi eu hunain

Mae pump elusen yng Nghymru yn falch iawn i gyhoeddi y byddant yn cydweithio i ddarparu gwasanaeth ar draws Cymru sy'n cefnogi pobl hŷn i "ymdopi'n well" yn eu cartrefi eu hunain.

Mae Ymdopi'n Well yn ehangu gwasanaeth a ddarparwyd yn flaenorol gan Care & Repair Cymru, RNIB Cymru ac Action on Hearing Loss Cymru. Bydd Cymdeithas Strôc Cymru a Chymdeithas Alzheimer Cymru yn awr yn ymuno i ddarparu'r gwasanaeth. Caiff y gwasanaeth ei ariannu yn defnyddio Grant Trydydd Sector Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, yn gyfanswm o £2.1m dros dair blynedd (o 2020/21 i 2022/23).

Mae gweithwyr achos Ymdopi'n Well yn gweithio ym mhob rhan o Gymru ac mae ganddynt yr wybodaeth a'r sgiliau i wybod sut y gall llesgedd, strôc, dementia a cholled synhwyraidd gyfyngu ar fyw annibynnol. Byddant yn gweithio'n agos gyda gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol mewn cymunedau ac ysbytai i roi cefnogaeth i bobl hŷn sydd fwyaf o angen help, gan eu cadw'n ddiogel, cynnes ac annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.

Wrth siarad ar ran y bartneriaeth dywedodd Chris Jones, Prif Weithredwr Care & Repair Cymru: "Mae hyn yn newyddion gwych i bobl hŷn ar draws Cymru. Rydym wrth ein bodd i fedru ehangu ein gwasanaeth llwyddiannus Ymdopi'n Well i bartneriaid newydd yng Nghymdeithas Strôc Cymru a Chymdeithas Alzheimer Cymru i helpu cyrraedd hyd yn oed mwy o bobl hŷn fregus cyn iddynt ddioddef argyfwng fel syrthio yn eu cartrefi neu fynd i ysbyty neu feddygfa oherwydd salwch.

"Mae ein gweithwyr achos arbenigol eisoes yn gweithio'n agos gyda phobl hŷn gyda cholled synhwyraidd a drwy ehangu'r bartneriaeth byddwn yn cynyddu dealltwriaeth a chefnogaeth ar gyfer bywyd annibynnol ar gyfer pobl sydd wedi goroesi strôc neu sy'n byw gyda dementia.

"Rydym yn hynod falch fod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn gwasanaeth ataliol sy'n cydnabod y gall cartrefi gwael arwain at iechyd gwael, ac arwain at dderbyniadau y medrid eu hosgoi i ysbytai, ymweliadau i feddygfeydd neu symud i gartrefi gofal preswyl.

"Rydym wedi dadlau ers amser maith fod tai yn gonglfaen bwysig mewn darparu gwasanaethau modern, seiliedig yn y gymuned sy'n gohirio, ostwng neu atal yr angen am y Gwasanaeth Iechyd Gwladol neu'r Gwasanaethau Cymdeithasol. Wrth ein helpu i ariannu'r gwasanaeth, mae Llywodraeth Cymru yn rhoi ar waith ei dymuniad i weld gwasanaethau gwirioneddol integredig ar draws Tai, Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae hyn yn enghraifft ymarferol o sut y caiff polisïau Llywodraeth Cymru yn 'Cymru Iachach' eu defnyddio i wella bywydau miloedd o bobl."

Wrth groesawu'r newyddion ychwanegodd Sue Phelps, Cyfarwyddwr Cymdeithas Alzheimer Cymru: "Rydym yn falch i fod yn rhan o'r cynllun ar y cyd hwn, gan ychwanegu at ein gwaith i wella bywydau ein buddiolwyr. Mae hefyd yn gwneud synnwyr economaidd gwych i ymuno a chynyddu gwybodaeth gweithwyr achos Ymdopi'n Well fel eu bod yn ymgorffori'r wybodaeth, sgiliau a gwasanaethau pob un o'r pump elusen partner ar yr un pryd. Mae'r trydydd sector yn ymroddedig i'r agenda synhwyrol o well gweithio integredig o fewn y sector a hefyd gyda chydweithwyr ar draws Iechyd, Tai a Gofal Cymdeithasol. Mae cydweithredu agosach rhwng sefydliadau yn sicr o fod yn newyddion da i'r bobl sydd fwyaf o angen cymorth."

Dywedodd Ansley Workman, Cyfarwyddwr RNIB Cymru: "Gall byw gyda cholli golwg gael effaith enfawr ar eich bywyd a chredwn y dylai pawb gael mynediad i gymorth. Gwyddom pan fod pobl yn cael y cymorth maent angen y gallant ailadeiladu eu gwytnwch ac ymdeimlad o optimistiaeth am y dyfodol. Mae colli golwg yn effeithio ar bobl o bob oed, ond yn arbennig bobl hŷn. Yng Nghymru mae un mewn pump o bobl dros 75 oed ac un mewn dau o bobl 90 oed a throsodd yn byw gyda cholli golwg, a disgwylir i'r nifer ddyblu erbyn 2050. Gwyddom fod pobl gyda cholled golwg mewn mwy o risg o syrthio a dioddef iselder. Dyna pam fod Ymdopi'n Well yn help mor werthfawr i bobl hŷn gyda cholli golwg i barhau i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain."