Shop RNIB Cyfrannwch nawr

RNIB Cymru yn galw ar Gyngor Casnewydd i wrthdroi’r penderfyniad i dynnu yn ôl o wasanaeth Sencom

Mae RNIB Cymru yn dod ynghyd â sefydliadau colled golwg eraill yng Nghymru i herio penderfyniad a wnaed gan Gyngor Dinas Casnewydd i dynnu yn ôl o wasanaeth Sencom. Mae’r gwasanaeth hwn yn rhoi cymorth i blant ag anghenion synhwyraidd a chyfathrebu ar draws ardal Gwent o adeg eu geni nes iddynt droi’n 19 oed.

Mae’r Cyngor wedi cynnig darparu gwasanaeth amgen, ond mae gennym nifer o bryderon am yr effaith y gallai hyn ei chael ar blant a phobl ifanc â cholled golwg yn ardal Gwent.

Dyma’n prif bryderon:

  • Methiant Cyngor Dinas Casnewydd i ymgynghori â theuluoedd ynghylch yr effaith bosibl yn sgil eu penderfyniad i dynnu yn ôl o wasanaeth Sencom. At hynny credwn y bu methiant i asesu graddfa’r gwasanaeth newydd sydd ei angen, sy’n golygu bod y dyfodol yn ansicr i blant lleol â cholled golwg a’u teuluoedd.
  • Mae angen cymorth arbenigol ar blant â cholled golwg a’u teuluoedd. Mae darparu gwasanaethau digonol yn gynnar mewn bywyd yn creu gwytnwch ac yn arwain at lai o arwahanrwydd yn ddiweddarach mewn bywyd. At hynny mae’n sicrhau bod plant a phobl ifanc â cholled golwg yn cael yr un mynediad i addysg a chymorth er mwyn byw bywydau cyflawn ac iach.
  • Ystyriwyd bod gwasanaeth Sencom yn fodel o arfer gorau ym maes gweithio’n rhanbarthol a bu ar waith ers bron i 35 mlynedd. Bydd tynnu yn ôl o’r gwasanaeth hwn hefyd yn effeithio’n negyddol ar awdurdodau cyfagos gan arwain, o bosibl, at loteri cod post ar gyfer darpariaeth yn ne ddwyrain Cymru.
  • Mae elusennau’n galw am i’r penderfyniad gael ei wrthdroi ac i gynghorwyr bleidleisio yn erbyn y penderfyniad.