Shop RNIB Cyfrannwch nawr

Trawsnewid gofal llygaid: blaenoriaeth i bobl sy’n wynebu’r risg fwyaf o fynd yn ddall

Heddiw, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, y bydd y cleifion gofal llygaid yng Nghymru sy’n wynebu’r risg fwyaf o fynd yn ddall yn cael eu blaenoriaethu. Bydd hyn yn golygu y bydd modd iddynt gael eu trin yn gynt gan y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, diolch i fuddsoddiad o £3.3m gan Lywodraeth Cymru i drawsnewid gwasanaethau.

Amcangyfrifir bod oddeutu 111,000 o bobl yng Nghymru wedi colli eu golwg, a rhagwelir y bydd cynnydd o draean yn y nifer hwn erbyn 2030, ac y bydd yn dyblu erbyn 2050. Mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod oddeutu 10% o gleifion newydd yn wynebu risg o golli eu golwg yn barhaol, o gymharu â thua 90% o gleifion sydd yn y broses o dderbyn gofal dilynol.

Yn sgil y pryderon sydd wedi eu codi gan offthalmolegwyr ymgynghorol a’r trydydd sector, comisiynodd Llywodraeth Cymru grŵp o dan arweinyddiaeth y GIG i adolygu’r problemau sy’n wynebu cleifion ar y rhestrau aros, yn enwedig y rheini y mae angen triniaeth barhaus arnynt.

Bydd y buddsoddiad o £3.3m yn caniatáu i fyrddau iechyd i ddechrau cyflwyno’r newidiadau y mae eu hangen i drawsnewid eu gwasanaethau.

Mae’r camau gweithredu’n cynnwys:

  • ehangu gwasanaethau sydd ar gael eisoes er mwyn darparu gofal yn nes at gartrefi pobl, fel y gellir trin cleifion yn y lleoliad mwyaf priodol;
  • addasu llwybrau gofal fel eu bod yn gyson â’r rhai sydd wedi cael eu cytuno’n genedlaethol;
  • cyflwyno a datblygu rhith-glinigau;
  • ehangu’r cymysgedd o sgiliau sydd gan y staff, i gynnwys nyrsys sy’n chwistrellwyr ac optometryddion, er mwyn rhannu’r gofal a ddarperir rhwng gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn yr ysbyty ac yn y gymuned.

O fis Ebrill 2019 ymlaen, bydd canllawiau newydd yn golygu y bydd yn ofynnol i wasanaethau gofal llygaid mewn ysbytai weithredu systemau sy’n sicrhau bod cleifion yn cael eu hasesiad neu eu triniaeth gan yr unigolyn mwyaf addas o fewn amser sy’n briodol yn glinigol. Dylai hynny arwain at lai o oedi wrth ddarparu triniaeth i’r rheini sy’n wynebu’r risg fwyaf o golli eu golwg, gan y byddant yn cael eu gweld yn gyflym oherwydd eu cyflwr.

Mae’r mesurau’n seiliedig ar flaenoriaeth ac i ba raddau y mae angen gofal brys ar y claf. Mae’r flaenoriaeth yn dibynnu ar lefel y risg y gallai golwg y claf gael ei niweidio oherwydd y cyflwr sy’n effeithio ar ei lygaid, pe bai’r dyddiad targed ar gyfer apwyntiad yn cael ei golli. Mae penderfynu a yw achos yn un brys ai peidio yn seiliedig ar ba mor fuan y dylid gweld y claf o ystyried cyflwr presennol ei lygaid, neu’r posibilrwydd y gallai’r cyflwr hwnnw waethygu.

Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno mesur o’r math hwn ar gyfer cleifion gofal llygaid.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething:

“Mae’n hollbwysig sicrhau bod pobl yn cael gofal llygaid o ansawdd uchel, ac felly dydyn ni ddim am i bobl orfod wynebu’r risg y bydd eu golwg yn gwaethygu oherwydd aros am amser hir cyn cael apwyntiad dilynol ar ôl eu hasesiad cychwynnol.

“Bydd y buddsoddiad o £3.3m dw i’n ei gyhoeddi heddiw yn caniatáu i fyrddau iechyd ar draws Cymru ddefnyddio’r cyllid y mae ei angen i ddechrau trawsnewid eu gwasanaethau gofal llygaid. Bydd hyn, ynghyd â’r mesur newydd a fydd yn cael ei weithredu, yn gwneud llawer i wella gwasanaethau i bobl yng Nghymru.”

“Ni oedd y llywodraeth gyntaf yn y byd i roi ar waith gynllun ar gyfer darparu gofal llygaid, a dw i’n falch o’r ffaith mai ni sy’n arwain y ffordd unwaith yn rhagor drwy fod y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno mesur ar gyfer perfformiad yn y modd yr ydyn ni’n darparu gofal llygaid.”

Meddai Cyfarwyddwr RNIB Cymru, Ansley Workman: “Mae apwyntiadau clinig llygaid sy’n cael eu canslo a’u gohirio yn golygu risg i gleifion o golli eu golwg yn barhaol. Ddylai neb golli eu golwg oherwydd cyflwr a allai gael ei drin. Dyna pam mae hi mor bwysig bod pob bwrdd iechyd yn cyflawni’r amserlen o weithredu’r Mesurau newydd erbyn mis Mawrth 2019, gan flaenoriaethu cleifion yn dibynnu ar eu risg o ddioddef niwed.  

“Mae’r buddsoddiad yma gan Lywodraeth Cymru yn hanfodol, ac fe ddylai weddnewid gwasanaethau ar draws y wlad, gan wneud yn siŵr bod y rhai sy’n wynebu’r risg fwyaf o golli eu golwg yn barhaol yn cael eu trin yn gyflym ac yn effeithiol.

“Fe hoffen ni ddiolch i Lywodraeth Cymru am eu hymrwymiad parhaus i wella iechyd llygaid pobl Cymru. Mater i fyrddau iechyd ym mhob rhan o’r wlad nawr yw gwneud i’r newid yma ddigwydd er mwyn eu cleifion, gan arwain y ffordd ar gyfer gwledydd eraill Prydain.”