Ar hyn o bryd, mae dros 100,000 o bobl yng Nghymru sydd wedi colli eu golwg.
Rydym yn darparu amrywiaeth o wasanaethau i ddiwallu anghenion pobl ddall ac â golwg rhannol yng Nghymru; o gymorth yn yr ysgol a'r coleg, i ddod o hyd i waith a byw'n annibynnol. Rydym yn gweithio i wneud pob diwrnod yn well i bobl sydd wedi colli eu golwg.
Mae ein tîm Gwasanaethau Addysg a Phlant yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc sy'n ddall neu sydd â golwg rhannol, eu teuluoedd a gweithwyr proffesiynol perthnasol i hyrwyddo cynhwysiant addysgol a chymdeithasol o ansawdd da.
Mae ein Swyddogion Cyswllt Clinig y Llygaid yn gweithio mewn clinigau llygaid ledled Cymru. Maent yn rhoi gwybodaeth a chefnogaeth emosiynol ac ymarferol i gleifion clinig y llygaid sydd wedi cael diagnosis o golli golwg.
Rydym yn cynnal digwyddiadau am ddim ar draws Cymru i helpu chi datblygu’r sgiliau i ddefnyddio technoleg ar we yn hyderus.
I wybod mwy, chwiliwch am ddigwyddiad yn agos i chi.