Shop RNIB Cyfrannwch nawr

Creu adnoddau gwybodaeth a chyfathrebu hygyrch ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol

Mark Chapman in Luton hospital sat with a patient with sight loss.

Yn y DU mae gofyniad cyfreithiol i sefydliadau’r GIG a gofal cymdeithasol sicrhau bod gwybodaeth yn hygyrch, a bod anghenion cyfathrebu’n cael eu diwallu ar gyfer pobl ddall ac â golwg rhannol.

Mae’r gofyniad cyfreithiol hwn yn lleihau’r risg y bydd cleifion yn methu â mynychu apwyntiadau, yn gwella diogelwch cleifion a chydymffurfiaeth â thriniaeth, ac yn cefnogi urddas, annibyniaeth a phreifatrwydd cleifion.

Cofiwch fod pawb yn gweld yn wahanol. Gofynnwch i bobl bob tro am eu fformatau gwybodaeth gofynnol a'u hanghenion cyfathrebu. Adolygwch y rhain yn rheolaidd.

Gall RNIB gefnogi sefydliadau gydag ystod eang o wasanaethau gwybodaeth hygyrch gan gynnwys adolygiadau print clir, gwasanaethau trawsgrifio a darpariaeth gyflawn sy’n cynnwys braille, print bras a sain sydd ar gael ar gyfraddau cystadleuol i’r GIG a gofal cymdeithasol

Gweler isod ystod o adnoddau a allai fod yn ddefnyddiol i chi.

Creu gwybodaeth hygyrch

Gwneud gwybodaeth argraffedig yn hygyrch

Os nad ydych yn gyfarwydd gydag ysgrifennu gwybodaeth mewn fformat hygyrch, mae ein canllaw Syniadau Da yn cynnig cyngor doeth a syml. Mae'r canllawiau yn rhoi arferion gorau manylach ac os oes angen cyngor ac arweiniad pellach arnoch Cysylltwch â'n Gwasanaethau Busnes | RNIB

Syniadau da ar gyfer gwybodaeth brintiedig a chyfathrebu hygyrch: Canllaw syml i'ch rhoi ar ben ffordd (Fersiwn Saesneg)

Syniadau da ar gyfer gwybodaeth brintiedig a chyfathrebu hygyrch: Canllaw syml i'ch rhoi ar ben ffordd (Fersiwn Gymraeg)

Canllawiau print clir: Canllaw manwl gydag awgrymiadau hygyrchedd ar gyfer amrywiaeth o wybodaeth gan gynnwys dogfennau ysgrifenedig, dogfennau digidol, cyfryngau cymdeithasol a fformatau amgen. (Fersiwn Saesneg)

Canllawiau print clir (Fersiwn Gymraeg)

Lliw a chyferbyniad ar gyfer deunyddiau printiedig: Canllaw byr yn ymdrin â'r egwyddorion dylunio sylfaenol. Bydd y wybodaeth hon hefyd yn ddefnyddiol i unrhyw un sy'n dylunio cynhyrchion neu ystafelloedd mewnol a fydd yn cael eu defnyddio gan bobl ddall ac â golwg rhannol.

Lliw a chyferbyniad ar gyfer pobl gyda cholled golwg: Canllaw manwl yn ymdrin â'r egwyddorion sylfaenol a'r arferion gorau wrth ddefnyddio lliw a chyferbyniad mewn deunyddiau printiedig. Mae'r canllaw hefyd yn ddefnyddiol wrth ddylunio cynhyrchion neu wefannau a fydd yn cael eu defnyddio gan bobl gyda cholled golwg

Cymdeithas y DU ar gyfer fformatau Hygyrch::UKAAF yw'r gymdeithas ddiwydiant sy'n gosod safonau ac yn hyrwyddo arferion gorau ar gyfer dogfennau hygyrch. Mae ei gwefan yn cynnwys gwybodaeth am braille, print bras, sain, dogfennau electronig, dogfennau swyddfa a cherddoriaeth.

Gwneud gwybodaeth ddigidol yn hygyrch

Gyda mwy o bobl yn defnyddio technoleg ac wrthi gael ei mabwysiadu’n eang ar draws y GIG a gofal cymdeithasol, mae’n bwysicach fyth bod gwybodaeth ddigidol yn gwbl hygyrch.

Gall RNIB gefnogi drwy ei Gwasanaethau Busnes gydag adolygiadau o dyluniadau gwefannau ac apiau, tystiolaeth o brofiad defnyddwyr, archwiliadau gwefan a stamp achrediad yr RNIB fel bod pobl yn gwybod yn iawn bod eich gwefan neu ap yn hygyrch ac yn ddefnyddiadwy.

Rydym hefyd wedi cynnwys ambell awgrym da ac adnoddau a fydd yn eich helpu i sicrhau bod eich gwybodaeth ddigidol yn hygyrch.

Syniadau da ar gyfer gwybodaeth a chyfathrebu digidol hygyrch: Canllaw syml i fynd i’r RNIB i’ch rhoi ar ben ffordd (Fersiwn Saesneg)

Syniadau da ar gyfer gwybodaeth a chyfathrebu digidol hygyrch: Canllaw syml i fynd i’r RNIB i’ch rhoi ar ben ffordd (Fersiwn Gymraeg)

Syniadau da ar gyfer e-bost hygyrch: Ewch i'r canllaw cyflym gyda 7 awgrym da. (Fersiwn Saesneg)

Syniadau da ar gyfer e-bost hygyrch (Fersiwn Gymraeg)

Syniadau da ar gyfer ffurflenni hygyrch ar-lein: Canllaw byr i sicrhau bod eich ffurflenni ar-lein yn hygyrch. (Fersiwn Saesneg)

Canllaw byr i sicrhau bod eich ffurflenni ar-lein yn hygyrch. (Fersiwn Gymraeg)

WCAG 2.2 Canllaw Cychwyn Cyflym ar gyfer gwefannau: Canllaw Cychwyn Cyflym RNIB sy'n crynhoi canllawiau WCAG 2.2 ar gyfer arfer da o ran hygyrchedd gwefannau a dylunio cynhwysol. Mae'r canllaw yn canolbwyntio ar rai o'r materion mwyaf cyffredin sy'n codi ar wefannau ac yn rhoi cyngor ar sut i fynd i'r afael â'r rhain.
Amlinelliad o ganllawiau ap:Canllaw manwl RNIB wedi'i anelu at ddatblygwyr apiau a gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol sy'n datblygu apiau. Mae’r canllawiau’n seiliedig ar y safon a gydnabyddir yn rhyngwladol ISO 9241-171:2008 – Ergonomeg rhyngweithio system ddynol – Rhan 171: Canllawiau ar hygyrchedd meddalwedd. Nid canllawiau technegol yw rhain, ond maent yn seiliedig ar yr hyn y dylai’r profiad gorau o ran defnyddioldeb ei fod. (Fersiwn Saesneg)

Amlinelliad o ganllawiau ap (Fersiwn Gymraeg)

Gwneud cyfryngau cymdeithasol yn hygyrch

Mae cyfryngau cymdeithasol yn arf cyfathrebu allweddol. Rydym wedi darparu ystod o awgrymiadau da i sicrhau y gallwch gyrraedd pawb.

Canllaw i gyfryngau cymdeithasol hygyrch: canllaw rhagarweiniol RNIB i’r llwyfannau cyfryngau cymdeithasol mwyaf poblogaidd, pa mor hygyrch ydyn nhw i bobl ddall ac â golwg rhannol a ble i fynd am fwy o help.

Syniadau da ar gyfer cyfryngau cymdeithasol hygyrch: : Syniadau a chyngor doeth gan RNIB i sicrhau fod eich cyfryngau cymdeithasol yn fwy hygyrch.”

Syniadau da ar gyfer cyfryngau cymdeithasol hygyrch: Syniadau a chyngor doeth gan RNIB i sicrhau fod eich cyfryngau cymdeithasol yn fwy hygyrch.

Gwneud cyfarfodydd, gweithdai a digwyddiadau yn hygyrch

Mae cyd-ddylunio’n allweddol i wella gwasanaethau, boed yn gweithio gyda’n gilydd i sicrhau bod gwybodaeth iechyd a gofal yn hygyrch neu’n ailgynllunio llwybr. Bydd yr awgrymiadau hyn yn eich helpu i greu cyfarfodydd, gweithdai a digwyddiadau cynhwysol.

Syniadau da ar gyfer cyfarfodydd a gweithdai hygyrch: awgrymiadau da RNIB wedi’u cynllunio ar y cyd â defnyddwyr gwasanaethau. (Fersiwn Saesneg)

Syniadau da ar gyfer cyfarfodydd a gweithdai hygyrch (Fersiwn Gymraeg)

Syniadau da ar gyfer cyflwyniadau PowerPoint: Canllaw’r RNIB er mwyn sicrhau bod eich cyflwyniadau'n hygyrch