Gwybodaeth i Weinyddwyr Etholiadol
Disgyblion ysgol yn sefyll mewn bythau pleidleisio preifat yn ysgrifennu eu pleidlais.
Fel gweinyddwyr etholiadol, mae sawl ffordd y gallwch chi gefnogi pobl ddall ac â golwg rhannol i bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol. Pan fydd pleidleisiwr yn cyrraedd yr orsaf bleidleisio, efallai y bydd angen ei dywys i'r bwth pleidleisio. Gofynnwch bob amser sut mae’r person yn hoffi cael ei dywys.
Sut gallwch chi helpu pleidleiswyr dall ac â golwg rhannol
Mae'r dudalen yma’n cynnwys fideos, canllawiau ysgrifenedig a chynghorion ar gyfer sut i gefnogi pleidleiswyr dall ac â golwg rhannol i ddefnyddio rhai o'r datrysiadau pleidleisio hygyrch y mae RNIB Cymru wedi'u profi. Fodd bynnag, nid dyma'r unig ddatrysiadau pleidleisio hygyrch y mae posib eu defnyddio.
Efallai y bydd pleidleisiwr dall neu â golwg rhannol yn cysylltu â chi cyn yr etholiad i ofyn am ddatrysiad penodol, neu fe allech chi sicrhau dyfeisiau penodol cyn y diwrnod pleidleisio fel eich bod yn barod i gefnogi unrhyw bleidleisiwr a'i ofynion. Bydd pleidleiswyr dall ac â golwg rhannol yn amrywio o ran pa ddatrysiad pleidleisio hygyrch fydd yn gweithio orau iddyn nhw, yn dibynnu ar eu lefel o olwg. Mae'n ofynnol i Swyddogion Canlyniadau ragweld yr hyn sydd ei angen yn eu hardal ac mae ganddynt ddyletswydd i ddarparu offer i alluogi pobl anabl i bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol.
Mae sawl rhwystr i bleidleisio'n gyfrinachol ac yn annibynnol i bobl ddall ac â golwg rhannol, a dau brif rwystr o ran y papur pleidleisio ei hun. Y cyntaf yw gwybod beth yw cynnwys y papur pleidleisio gan gynnwys enwau ymgeiswyr, pleidiau a chyfarwyddiadau pleidleisio. Yr ail yw gweld y papur pleidleisio corfforol a lleoli'r bocsys pleidleisio i farcio'r groes. Mae papur pleidleisio print bras y gallai rhai pleidleiswyr â golwg rhannol sy'n gallu darllen testun print ei ddefnyddio'n llwyddiannus i wybod beth yw cynnwys y papur pleidleisio. Fodd bynnag, efallai mai recordiad sain fyddent yn ei ffafrio o hyd.
Canllawiau fideo:
Canllawiau Ysgrifenedig:
Canllawiau Sain:
RNIB Accessible Voting Trial 2023
The practical act of voting – making a cross in a specific location on a piece of paper – is fundamentally a visual exercise. As such, the majority of the 320,000 blind and partially sighted people in the UK face unacceptable barriers to voting independently and in secret. RNIB has campaigned on this issue for many years and we continue to call for an equitable voting experience for blind and partially sighted people.
We were pleased to work with colleagues at the Department of Levelling Up, Housing and Communities (DLUHC) and at the Electoral Commission to devise an accessible voting trial for blind and partially sighted people on 25 September 2024, held at RNIB’s office in London.
Trialling a series of potential solutions in a rigorous way is a crucial step towards ensuring all blind and partially sighted people are able to exercise their fundamental democratic right to vote independently and in secret.
Read our report:
Treial Pleidleisio Hygyrch Llywodraeth Cymru 2025
Mae’r weithred ymarferol o bleidleisio – gosod croes mewn lleoliad penodol ar ddarn o bapur – yn ymarfer gweledol yn y bôn. O'r herwydd, mae mwyafrif y bobl ddall ac â golwg rhannol yng Nghymru yn wynebu rhwystrau annerbyniol i bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol. Mae RNIB Cymru wedi ymgyrchu ar y mater hwn ers blynyddoedd lawer ac rydym yn parhau i alw am brofiad pleidleisio teg i bobl ddall ac â golwg rhannol.
Roeddem yn falch o ffurfio partneriaeth â Llywodraeth Cymru a gwasanaethau etholiadol yr awdurdodau lleol yng Nghaerdydd a Wrecsam i gynnal treialon lle gwnaethom brofi amrywiaeth o wahanol ddyfeisiau sain a chyffyrddol.
Roedd y canfyddiadau'n glir – mae argaeledd datrysiadau pleidleisio sain a chyffyrddol yn helpu i wella profiad pleidleisio pobl ddall ac â golwg rhannol. A dweud y gwir, dangosodd y treialon fod 94 y cant o bobl ddall ac â golwg rhannol yn gallu pleidleisio'n annibynnol wrth ddefnyddio dyfeisiau sain fel llinell ffôn neu Chwaraeydd Accord ochr yn ochr â dyfais bleidleisio gyffyrddol, o gymharu â dim ond 26 y cant gyda'r ddyfais gyffyrddol yn unig.
Roedd y treialon hyn yn gam hollbwysig tuag at sicrhau bod pob person dall ac â golwg rhannol yn gallu arfer eu hawl ddemocrataidd sylfaenol i bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol.
Darllenwch adroddiad Llywodraeth Cymru ar y treialon: