Shop RNIB Cyfrannwch nawr

Blog Ansley: Mae’n Gwneud Synnwyr i fynd i apwyntiadau gofal llygaid hanfodol

Fis Tachwedd eleni, rydw i wrth fy modd bod RNIB Cymru yn cefnogi ymgyrch 'Mae’n Gwneud Synnwyr' GIG Cymru fel rhan o’r Mis Ymwybyddiaeth o Golled Synhwyraidd yng Nghymru.

Rydyn ni’n gwybod bod llawer o bobl sydd â cholled synhwyraidd yn poeni am fynd i apwyntiadau mewn clinigau ysbyty. Mae hyn yn ddealladwy, ond mae'n bwysig bod yn ymwybodol bod staff y GIG yn gweithio'n galed i sicrhau bod pob claf yn ddiogel ac yn cael y gefnogaeth y mae arnynt ei hangen.

Nod yr ymgyrch 'Mae'n Gwneud Synnwyr' yw gwella profiadau cleifion sydd â cholled synhwyraidd o bob math ac mae'n codi ymwybyddiaeth ymhlith staff o'r anghenion ychwanegol sydd gan rai cleifion efallai.

Mae'r ymgyrch wedi bod yn llwyddiant ysgubol dros y blynyddoedd. Rydyn ni wedi clywed gan lawer o gleifion sydd wedi cael profiadau rhagorol wrth fynychu clinig ar gyfer eu hapwyntiad, gan gynnwys cael eu tywys gan staff, a hefyd derbyn gwybodaeth glir am newidiadau sydd wedi'u cyflwyno i wneud y clinig yn ddiogel rhag COVID.

Os oes gennych chi apwyntiad, gallwch fod yn dawel eich meddwl y gallwch fynd iddo'n hyderus. Os oes gennych chi unrhyw bryderon am eich apwyntiad yn y clinig llygaid neu anghenion ychwanegol, gofynnwch am gael siarad â Swyddog Cyswllt y Clinig Llygaid (ECLO) yn y clinig. Gallwch hefyd gysylltu â nhw drwy linell gymorth yr RNIB ar 0303 123 9999, neu e-bostio [email protected]. Yn bwysicach na dim, cadwch yn ddiogel ac yn iach.