Shop RNIB Cyfrannwch nawr

Mae rhoi blaenoriaeth i fobl a cholled golwg er mwyn cael mynediad i siopa arlein yn hanfodol: Blog Ansley

Mae pandemig y coronafeirws yn amser anodd i ni gyd. Mae’n ein cyflwyno problemau unigryw i bobl ddall ac sydd wedi colli eu golwg ar draws Cymru.

Rydym wedi derbyn cynnydd o 15% mewn galwadau i ein prif linell gymorth yr RNIB gan bobl ar draws y DU sydd gyda llawer o gwestiynau a phryderon ynglŷn â phellhau cymdeithasol, apwyntiadau wedi eu gohirio a sut i gael meddyginiaeth.

Yr hyn sydd yn peri’r mwyaf o ofid yw’r nifer o alwadau yr ydym wedi ei dderbyn gan bobl yn poeni ynglŷn â sut all pobl fynd i siopa bwyd ac ati.

Fel mae sialensiau siopa bwyd yn cynyddu gydag ansicrwydd Covid-19, mae sawl archfarchnad yn cynnig gwasanaethau ychwanegol i’r rhai sydd yn cael eu hystyried yn “agored iawn i niwed” o dan fesurau amddiffyn newydd. 

Fodd bynnag, mae’r categori yma o fod yn “agored iawn i niwed” wedi ei arawd i bobl sydd wedi eu hadnabod o fod mewn peryg difrifol o salwch meddygol gan Covid-19, ac nid yw’n cyfri am bobl gyda cholled golwg sydd wedi bod yn wynebu problemau enbyd yn cael bwyd.  

I’r nifer o bobl ddall ac sydd wedi colli eu golwg sydd yn dibynnu ar gyfuniad o gyffyrddiad a thywys gan berson arall er mwyn llywio eu ffordd drwy’r byd, mae cymryd cam i’r archfarchnad hyd yn oed yn sialens ar hyn o bryd. Ymhellach, ni all marciau pellhau cymdeithasol ar y lloriau a chyflwyniad llwybrau unffordd o amgylch archfarchnadoedd cael eu defnyddio gan bobl sydd yn defnyddio ffon hir na ddefnyddwyr cwn-tywys.

Mae siopa ar-lein y modd amgen orau er pobl sydd wedi eu colli eu golwg i siopa, ond mae slotiau archebu’r archfarchnad wedi eu hargadw eisoes am wythnosau i ddod. O ganlyniad i hyn, ni all llawer o bobl gael mynediad at yr hanfodion y maen nhw eu gwirioneddol angen. 

Mae RNIB Cymru wedi cymered hyn o ddifrif. Rydym yn gofyn i lywodraeth Cymru ar frys i weithio gyda’r archfarchnadoedd i sicrhau bod pobl a cholled golwg yn cael eu hystyried yn grŵp o bobl sy’n cael blaenoriaeth gyda siopa ar-lein. 

Rydym wedi ysgrifennu at Lesley Griffiths AC, Gweinidog dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ag Egni, yn galw am weithredu brys dros bobl ddall ac sydd wedi colli eu golwg sydd angen slotiau ar gyfer eu siopa.

Danfonom ni ddogfen a oedd yn cynnwys materion allweddol sydd yn effeithio ar bobl ddall neu a golwg rhannol yng Nghymru o ganlyniad i’r coronafeirws at AC’au Lynne Neagle, Rhun ap Iorwerth a Helen Mary Jones.

Rydym wedi bod yn cefnogi deiseb gan elusennau'r sector colli golwg ar draws y DU i sicrhau bod y mater yn cael ei ddatrys cyn gynted â phosib.

Rydym hefyd wedi bod yn gwrando ac yn ymateb i’r llawer o gwestiynau gan y gymuned o bobl ddall a’r sawl sydd wedi colli eu golwg, yn cynnig cefnogaeth bob cyfle y gallwn ni.

Byddwn yn parhau i weithio gyda’r sector colled golwg i sicrhau fod pobl sydd wedi colli ei golwg yn cael eu hystyried yn ystod yr amser anodd yma. Mae gwasanaeth cyngor colled golwg yr RNIB ar gael i unrhyw un sydd ag unrhyw gonsyrn ar 0303 123 9999 rhwng 8yb ag 8yh yn yr wythnos, a rhwng 9yb ac 5yh ar ddydd Sadwrn. Mae cyngor yn cael ei ddiweddaru ar-lein ar www.sightadvicefaq.org.uk.