Shop RNIB Cyfrannwch nawr

Tywys, cadw pellter cymdeithasol a symud drwy gyffwrdd yn ddiogel: cyngor newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru

Yn dilyn buddugoliaeth i’n hymgyrch Byd Wyneb i Waered, rydyn ni wedi cael cadarnhad y gall pobl ddall ac â golwg rhannol yng Nghymru gael eu tywys gan rywun sy’n byw y tu allan i’w cartref erbyn hyn.

Ers mis Mawrth, rydyn ni wedi bod yn pwyso ar Lywodraeth Cymru am atebion i gwestiynau pwysig, fel sut gall pobl â cholled golwg gael eu tywys yn ddiogel a sut i ymarfer cadw pellter cymdeithasol yn ddiogel.  

Mae’r bwlch hwn yn yr wybodaeth iechyd cyhoeddus wedi achosi llawer o ansicrwydd, ond rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi bod cyfarwyddyd newydd, sydd wedi’i ryddhau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gynharach yr wythnos hon, yn darparu cyngor amrywiol i helpu pobl â cholled golwg i fynd allan yn ddiogel a chadw pellter cymdeithasol hefyd.  

Effaith cadw pellter cymdeithasol

Dywedodd dwy ran o dair o’r bobl ddall ac â golwg rhannol a ymatebodd i’n harolwg diweddar ni eu bod yn teimlo’n llai annibynnol ers y cyfyngiadau symud. Yn bennaf, roedd hyn o ganlyniad i geisio cadw at reolau cysylltiedig â chadw pellter cymdeithasol, a dyma pam mae’r cyfarwyddyd newydd hwn mor bwysig.

Roedd Ansley Workman, Cyfarwyddwr RNIB Cymru, yn croesawu’r newyddion. “Mae pobl â cholled golwg wedi cael eu heffeithio’n annheg gan gyfyngiadau’r coronafeirws. Mae cadw pellter cymdeithasol yn creu heriau real mewn bywyd bob dydd ac mae wedi effeithio’n arbennig ar y rhai sy’n dibynnu ar eraill o’r tu allan i’w cartref am gefnogaeth i godi allan.”

"Rydyn ni wedi bod yn codi’r problemau hyn yn gyson ac yn galw am gyfarwyddyd swyddogol ers misoedd, drwy ein hymgyrch Byd Wyneb i Waered a thrwy lobïo’r llywodraeth.

Bydd yr wybodaeth newydd yma’n helpu pobl i gael eu tywys yn ddiogel a bydd yn rhoi sicrwydd i lawer o bobl a oedd yn teimlo nad oedd posib iddyn nhw adael eu cartref ers i’r cyfyngiadau symud gael eu cyflwyno.”Fodd bynnag, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i bwysleisio bod techneg dywys gywir yn bwysig o hyd, a hylendid dwylo da.  

Mae hefyd yn hanfodol bwysig nad oes unrhyw dywys yn digwydd os yw’r person â cholled golwg, ei dywysydd neu unrhyw aelod o deulu’r naill neu’r llall yn profi symptomau neu wedi cael gwybod gan aelod o dîm Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru ei fod wedi bod mewn cysylltiad ag achos wedi’i gadarnhau o COVID-19.