Shop RNIB Cyfrannwch nawr

Gyrwyr bysiau yn profi bywyd heb olwg yn ddigwyddiad Cyfnewid Gyda Fi

Cyfnewidiodd un ar ddeg o'n hymgyrchwyr o bob rhan o Dde Cymru le gyda gyrwyr bysiau Stagecoach i godi ymwybyddiaeth o'r anawsterau y mae pobl ddall ac â golwg rhannol yn eu hwynebu wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Ymwelodd y grŵp â depo bysiau Stagecoach yn y Coed Duon ar ddydd Iau 10 Hydref ar gyfer digwyddiad “Cyfnewid Gyda Fi”. Fel rhan o'r digwyddiad, rhoddwyd “Sim Specs” i yrwyr, a ddyluniwyd i efelychu cyflyrau llygaid amrywiol, fel y gallent brofi teithiau bws o safbwynt pobl ddall ac â golwg rhannol. 

Roedd ein hymgyrchwyr a'r gyrwyr hefyd yn trafod profiadau bws da a drwg, a sut y gellid gwneud gwasanaethau'n fwy hygyrch ledled Cymru.  

Roedd Lee Alder, 50, sydd ag Amaurosis Cynhenid Leber, ac sydd wedi bod yn ddall ers ei eni, yn un o'r ymgyrchwyr a ymunodd â'r digwyddiad. 

Meddai Lee: “Yn ddiweddar, rwyf wedi dechrau gadael y tŷ eto ar ôl cyfnod o beidio â theimlo fy mod yn gallu mynd o gwmpas. Nawr rwy'n defnyddio'r bws trwy'r amser ac mae'r gyrwyr yn fy ardal yn fy adnabod ac yn deall yn iawn, ond nid yw hyn yn wir bob amser ac mae llawer o bobl yn teimlo bod gyrwyr bysiau yn aml yn anghofio bod angen ychydig mwy o gymorth arnom.” 

“Yn aml mae angen help ar pobl ddall ac â golwg rhannol i fynd ar fysiau, yn enwedig os oes bwlch rhwng y palmant. Mae hefyd yn helpu os yw'r gyrrwr yn ein helpu i roi ein tocyn ar y peiriant, yn gofyn i ni ble y byddwn yn dod i ffwrdd, ac yn aros i ni ddod o hyd i sedd cyn gyrru i ffwrdd.  

“Mae'n eithriadol o bwysig codi'r materion hyn gyda gyrwyr bysiau i'w helpu i ddeall yr hyn sydd ei angen ar ddefnyddwyr bysiau ddall ac â golwg rhannol. 

“Roedd y digwyddiad Cyfnewid Gyda Fi yn ddiwrnod allan gwych. Roedd Stagecoach yn wych ac roedd yn wych siarad â'r gyrwyr. Roedd yn teimlo fel pe baent yn gwrando ac yn ystyried yr hyn yr oeddem yn ei ddweud. Dywedodd llawer ohonynt fod yr efelychiad wedi helpu i newid eu persbectif ar nam ar eu golwg, sy'n galonogol clywed.

Dywedodd Simon Furley, Rheolwr Hyfforddi a Datblygu Stagecoach yn Ne Cymru: “Roedd y gyrwyr a gymerodd ran yn y digwyddiad i gyd wedi mwynhau a wedi dysgu cymaint. Mae'n helpu ein staff i ddeall yn well yr anawsterau y mae pobl ddall ac â golwg rhannol yn eu cael ar drafnidiaeth gyhoeddus. Rydyn ni'n gobeithio bod y gwirfoddolwyr o'r farn bod yr arddangosiadau'n ddefnyddiol ac mae wedi helpu i fagu hyder wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.”Dywedodd Kirsty James, Swyddog Ymgyrchoedd RNIB Cymru: “Diolch i Stagecoach am ein croesawu yn nepo’r Coed Duon a gwrando ar bryderon ein hymgyrchwyr. Trwy gymryd rhan mae'r cwmni wedi cymryd cam gwych tuag at wneud teithio ar fws yn fwy hygyrch i bobl sydd wedi colli golwg.”