Boed y lle hudolus y mae’ch hoff lyfr yn arfer mynd â chi yno, neu atgofion arbennig sy’n cael eu cloi mewn llythyrau neu gyfnodolion nad ydych chi’n gallu
eu darllen bellach, rydyn ni’n deall pwysigrwydd a phŵer y gair ysgrifenedig a pha mor anodd mae’n gallu bod i chi ddarllen yr hyn rydych chi eisiau, pan
fyddwch eisiau.
Mae bywyd bob dydd yn llawn print a gall yr anallu i ddarllen hyn gyflwyno rhwystrau sylweddol i arwain bywyd annibynnol. Gall ein tîm helpu i gael gwared
ar y rhwystrau hyn. Drwy gymryd eich print a’i drosi i fformat gallwch chi ei ddarllen eich hun, gallant eich helpu chi i gadw mewn cysylltiad gyda’ch cymuned
leol, parhau i fynychu grwpiau cymdeithasol a gweithgareddau, mwynhau eich hoff hobi, neu ehangu eich gorwelion drwy addysg neu deithio.
Pa fformatiau ydyn ni’n cynnig?
• Sain mewn llais dynol neu lais synthetig a gynhyrchir yn ddigidol,
ar CD, CD Daisy, neu fel ffeil mp3
• Braille
• Print bras a phrint mawr
• Testun electronig
• Diagramau a delweddau cyffyrddol
• Cerddoriaeth ddalen a sgorau cerddorol hygyrch – Erwydd nodiant a addaswyd
Faint mae’n costio?
Cynigir y gwasaneth am ddim nawr ond cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth os
gwelwch yn dda!
Mae’r tîm Trawsgrifio Personol yn Ivybridge yn cynnig cyngor ac arweiniad ar y
ffordd orau o ddarparu’r hyn rydych chi ei angen.
Ffoniwch nhw ar 01752 690092
drwy’r broses gyfan.
Os ydych chi’n byw yng Nghymru, neu angen trawsgrifio yn Gymraeg,
gall ein tîm Trawsgrifio Caerdydd helpu. Cysylltwch â nhw drwy ebostio