Shop RNIB Cyfrannwch nawr

Y Coronafeirws a gwybodaeth hygyrch

Wrth i Lywodraethau ar draws y DU, swyddogion iechyd a phobl fusnes ymrafael gyda’r coronafeirws yn lledaenau, mae’r achosion yn dangos pa mor bwysig ydi gwybodaeth a chyfathrebu hygyrch er mwyn i bawb wybod sut i gadw eu hunain a’u cymunedau yn saff. 

Mae tua 121,000 o bobl yn byw gyda cholled golwg yng Nghymru heddiw. Mae un o bob pump o bobl sydd yn 75 oed ac yn hŷn â cholled golwg ac mae gan lawer o bobl ddall a phobl sydd â golwg rhannol gyflyrau eraill. Mae felly yn hanfodol bod gwybodaeth ynglŷn â newidiadau mewn polisi, gweithdrefnau neu gyngor yn hygyrch gan roi’r cyfle gorau i’r wybodaeth gyrraedd y rhai sy’n wynebu’r perygl mwyaf oherwydd y feirws.

Mae’r holl gyrff cyhoeddus mewn sefyllfa o bwysau mawr sydd yn newid yn gyflym, ble mae gwybodaeth hanfodol yn gorfod cael ei chyfathrebu yn gyflym iawn i’r cyhoedd. Gall hyn arwain at gyfathrebu ddim yn mynd drwy’r prosesau arferol a’r archwiliadau hygyrchedd cywir. 

Beth ddylai darparwyr gwasanaethau a chyrff cyhoeddus fod yn ei wneud?

Yng Nghymru, dylai’r GIG fod yn dilyn Safonau Cymru Gyfan ar gyfer Cyfathrebu a Gwybodaeth Hygyrch i Bobl Sydd â Cholled Synhwyraidd a darparu gwybodaeth yn y fformat y mae pobl yn ei ffafrio. Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb hefyd yn nodi ei bod yn ofynnol i bob darparwr gwasanaeth wneud “addasiadau rhesymol” i gefnogi pobl anabl, gan gynnwys darparu gwybodaeth “mewn fformat hygyrch”.

Mae hyn yn golygu bod gwybodaeth ar-lein yn gallu cael ei darllen yn hawdd gyda gosodiadau defnyddiwr safonol, meddalwedd chwyddo a darllenwyr sgrin. Defnyddiwch gyngor yr RNIB er mwyn sicrhau bod eich gwybodaeth ar-lein yn hygyrch a dilynwch y dolenni at ganllawiau pellach. 

Cyngor cyflym ar gyfer hygyrchedd digidol

  • Defnyddiwch benawdau wedi eu fformatio, i helpu darllenwyr sgrin i symud drwy eich dogfen neu wefan.  
  • Peidiwch â defnyddio delweddau testun i gyfleu gwybodaeth gan na all y rhain gael eu darllen gan ddarllenwyr sgrin.  
  • Gwnewch yn siŵr y gall maint testun gael ei newid yn ogystal â lliwiau’r testun a’r cefndir i gyd-fynd gyda’r hyn sy’n cael ei ffafrio gan ddefnyddwyr ar gyfer darllen.  
  • Gwnewch yn siŵr bod dolenni wedi eu hysgrifennu i ddisgrifio’r ddogfen neu’r adnodd y maent yn anfon y defnyddiwr iddo.  
  • Gwnewch yn siŵr bod yr wybodaeth neu’r fideos esbonio yn cyfleu’r un wybodaeth yn y troslais sain â sydd yn y lluniau ar y sgrin.  
  • Defnyddiwch ddisgrifiadau llun i rannu gwybodaeth sy’n cael ei rhoi mewn llun neu ffotograff.
  • Gwnewch yn siŵr bod yr holl gynnwys y mae posib ei lawrlwytho (Word neu PDF) yn cael ei wneud yn hygyrch.

Adnoddau Pellach

Gall yr RNIB eich helpu chi i sicrhau bod eich cyfathrebu yn hygyrch i bobl ddall ac â golwg rhannol. Cysylltwch â thîm Busnes yr RNIB ar 01733 375 370 neu i gael gwybod mwy defnyddiwch y dolenni isod.

Canllawiau:

  • Gwneud eich cyfryngau cymdeithasol yn hygyrch
  • Office yn creu dogfennau hygyrch
  • Gov.uk yn creu dogfennau hygyrch
  • Defnyddio arddulliau sydd wedi'u cynnwys yn Word
  • Canllawiau Testun Alt

Polisïau a chanllawiau

  • Deall gofynion hygyrchedd cyrff sector cyhoeddus
  • Y Ddeddf Cydraddoldeb