Shop RNIB Cyfrannwch nawr

Visibly Better - Dylunio tai ac adeiladau hygyrch

Gweledigaeth yr RNIB yw cael tai ac adeiladau sydd wedi'u dylunio'n gynhwysol ac sy'n hygyrch i bawb.

Mae Visibly Better yn cefnogi sefydliadau i ddatblygu a chynnal amgylcheddau hygyrch fel bod mwy o bobl yn gallu teimlo'n hyderus wrth symud o gwmpas y llefydd maent yn ymweld â hwy, ac yn gweithio neu'n byw ynddynt.

Cynllun achredu Visibly Better

Visibly Better yw cynllun achredu’r RNIB ar gyfer landlordiaid cymdeithasol, sydd â chynlluniau byw yn annibynnol i bobl hŷn neu gartrefi gofal yn eu portffolio tai. Nid yw Visibly Better yn disodli safonau'r Comisiwn Ansawdd Gofal (CQC) ond mae'n ceisio ategu gofynion y CQC drwy ddatblygu gwybodaeth a sgiliau staff yn barhaus, i greu amgylcheddau cartref sy'n gwella ansawdd byw.

Mae Visibly Better yn darparu strwythur cymorth unigryw sy'n hybu ansawdd byw preswylwyr â cholled golwg ac yn grymuso staff i wella annibyniaeth a symudedd preswylwyr yn hyderus drwy addasiadau syml i'r amgylchedd.

RNIB Visibly Better logo

Llun: RNIB Visibly Logo gwell

Cefnogir yr aelodau ar draws chwe maes sefydliadol allweddol Visibly Better sy'n dylanwadu ar safonau byw pobl hŷn. Yn dibynnu ar nifer y meysydd allweddol a sicrhawyd, gall yr aelodau gyflawni unrhyw beth o achrediad lefel efydd i blatinwm. Er mwyn cyrraedd y safonau hyn, mae Visibly Better yn darparu cefnogaeth amrywiol i’w aelodau:

  • Ymgynghoriaeth: boed yn adeilad newydd, yn waith adnewyddu neu waith cynnal a chadw cylchol, gallwn helpu i sicrhau bod cyllid prosiect yn mynd ymhellach, drwy wneud yr amgylchedd yn hygyrch heb gyfaddawdu ar y dyluniad.
  • Archwiliadau: dogfen hawdd ei defnyddio gyda lluniau a disgrifiadau o'r hyn sydd ei angen mewn unrhyw waith arfaethedig.
  • Cyrsiau hyfforddi: Mae gan aelodau Visibly Better fynediad at ystod gynhwysfawr o hyfforddiant sy'n rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau i bobl allu sicrhau gwasanaethau ar gyfer y dyfodol i bob tenant a phreswylydd. I weld rhestr o’r hyfforddiant, edrychwch ar ein llyfryn hyfforddi tîm Pobl Hŷn ac Anghenion Cymhleth.
“Doeddwn i ddim yn gwybod dim byd cyn ymwneud â Visibly Better – rydw i wedi datblygu’r holl wybodaeth yma... y gwahanol gyflyrau, effaith hyn ar wahanol bobl ac ochr fwy technegol pethau, er enghraifft, mathau o oleuadau, lefelau cyferbyniad a dylunio hygyrch… mae’r rhestr yn ddiddiwedd a dweud y gwir.” - Aelod o Visibly Better.

Cofrestr o gartrefi achrededig Visibly Better

Mae’r gofrestr hon yn dangos cynlluniau achrededig Visibly Better yng Nghymru sy’n dangos arfer rhagorol wrth ddiwallu anghenion preswylwyr sydd â cholled golwg. Mae'r cynlluniau ar y rhestr hon wedi creu dyluniadau cartrefol sy'n helpu i wella gallu preswylwyr i symud i mewn ac o gwmpas yr amgylcheddau byw, gan gynyddu annibyniaeth ac ansawdd byw. Mae pob un o’r cartrefi ar y gofrestr hon yn derbyn hyfforddiant ymwybyddiaeth colled golwg cynhwysfawr, parhaus, felly mae cyfathrebu a gweithgareddau yn y cynlluniau hyn yn hygyrch i bobl sydd â cholled golwg ac mae staff mewn gwell sefyllfa i gefnogi preswylwyr sydd â cholled golwg.

Os ydych chi'n chwilio am le i fyw i unrhyw un dros 55 oed neu'n chwilio am ofal ychwanegol yn eich ardal leol, gallai'r gofrestr hon o breswylfeydd achrededig fod yn ddefnyddiol ar gyfer eich penderfyniad.

Os ydych chi’n gynllun tai neu’n landlord cymdeithasol sy’n bwriadu mabwysiadu egwyddorion Visibly Better a dod yn ddarparwr tai â chymorth cofrestredig Visibly Better, cysylltwch â ni ar [email protected] neu ffoniwch ni ar 0141 739 3683.

Visibly Better a rheoliadau adeiladu

Mae egwyddorion dylunio Visibly Better yn cefnogi aelodau i gyflawni arferion gorau a rhwymedigaethau deddfwriaethol sy'n cynnwys Rhan M a Rhan K; Deddf Cydraddoldeb 2010; Cod Ymarfer Prydeinig BS 8300; Safon Ansawdd Tai Cymru; Gofynion Ansawdd Datblygu; a safonau Cartrefi Gydol Oes.

Visibly Better – nid dim ond tai

Mae Visibly Better wedi cael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru; y Comisiynydd Pobl Hŷn; y Sefydliad Tai Siartredig; Cymorth Cymreig; a Gofal a Thrwsio.

“Roeddem yn falch iawn o allu gweithio gyda’r RNIB i ddefnyddio egwyddorion dylunio Visibly Better Cymru ar gyfer ailgynllunio ein hystafell aros Radioleg."

"Fe wnaethon ni groesawu’r cyfle i sicrhau bod ein dyluniad yn creu amgylchedd a oedd yn hygyrch, yn hamddenol ac yn groesawgar. Rydw i wrth fy modd gyda'r canlyniad ac yn hapus i nodi bod yr hyn a ddysgwyd o'r prosiect yma wedi'i gyflwyno i amgylcheddau eraill o fewn y Bwrdd Iechyd."

“Mae sicrhau ein bod ni’n ystyried anghenion holl ddefnyddwyr y gwasanaeth wedi bod ar flaen ein meddwl ac mae’r adborth ar y dyluniad wedi bod yn gadarnhaol iawn,” meddai Sue Bailey, Arweinydd Proffesiynol ar gyfer Ansawdd, Diogelwch a Phrofiad y Claf, Bwrdd Clinigol Diagnosteg a Therapiwteg Glinigol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro."

Mae ein gwaith yn cael ei ganmol yn fawr ac mae wedi cael ei gydnabod drwy gynnwys cyhoeddiad yr RNIB "Building Sight" yn y Gofynion Ansawdd Datblygu Rhan 1.1.1 a Safonau Ansawdd Tai Cymru Rhan 7d.

Dywedodd David Watkins, Cydlynydd Visibly Better: “Mae'n rhaid i ddarparwyr tai cymdeithasol weithredu manylebau SATC a'r GAD, ond mae'n wych bod ein haelodau ni'n gallu dangos rhai o'r elfennau rheoleiddio allweddol drwy gyflawni Visibly Better. Mae Visibly Better yn sicrhau nad yw camgymeriadau costus yn cael eu gwneud a bod dewisiadau dylunio yn cael eu gwneud yn llawn gyda’r landlord.”

David Watkins (Visibly Better Coordinator, RNIB), Sue Bailey (Professional Lead for Quality, Safety and Patient Experience, Cardiff and Vale University Health Board), Keith Valentine (Director of Development, RNIB).

Image: David Watkins (Visibly Better Coordinator, RNIB), Sue Bailey (Professional Lead for Quality, Safety and Patient Experience, Cardiff and Vale University Health Board), Keith Valentine (Director of Development, RNIB).

Mae’r gwasanaeth wedi bod yn ymwneud â nifer o brosiectau unigryw, gan gynnwys:

  • Datblygu Cartrefi Gofal Ychwanegol, canolfannau cymunedol, gwasanaethau cleifion mewnol byrddau iechyd, wardiau, meddygfeydd, clinigau a lleoliadau cymorth ar gyfer anghenion cyffredinol a'r rhai sy'n arbenigo mewn anableddau dysgu.
  • Adnewyddu tai gwarchod a thai anghenion cyffredinol.

Os ydych chi’n ansicr ynghylch a yw eich prosiect presennol yn gymwys i wneud cais am gofrestriad Visibly Better, neu os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am sut gallai egwyddorion dylunio Visibly Better gefnogi datblygiad yn eich adeilad, cysylltwch â ni ar [email protected] neu ffoniwch ni ar 0141 739 3683.

Visibly Better ar waith

Gallwch ddarganfod mwy am Visibly Better drwy'r erthyglau a'r cyhoeddiadau hyn:

Edrychwch ar y fideo yma o John Phillips sydd wedi bod yn gwirfoddoli gyda Tai Tarian i helpu i asesu tai i sicrhau eu bod yn bodloni ein safonau Visibly Better.

Cefnogaeth bellach

Mae’r tîm Pobl Hŷn ac Anghenion Cymhleth yn arbenigo mewn darparu hyfforddiant a chymorth i staff a sefydliadau sy’n gweithio gyda cholled golwg a phobl hŷn neu bobl â cholled golwg ac anghenion cymhleth, fel dementia, anableddau dysgu, awtistiaeth a strôc. Mae amrywiaeth o adnoddau am ddim ar gael ar dudalennau gwe yr RNIB a allai fod o ddiddordeb i bobl sy’n gweithio yn y maes hwn a sawl cyfres podlediadau sy’n rhoi rhagor o wybodaeth am y pynciau hyn. Mae podlediad yn y gyfres yn benodol ar greu amgylcheddau cynhwysol ar gyfer colled golwg a fydd o ddiddordeb i unrhyw un sy'n meddwl am ddatblygu llefydd hygyrch. Am ragor o wybodaeth, ewch i'n tudalennau gwe:

  • Gweithio gyda phobl hŷn
  • Dementia a cholled golwg
  • Anableddau dysgu
  • Cyfres podlediadau - Cefnogi pobl sydd â cholled golwg
  • Hyfforddiant ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol.

Cysylltu â ni

I drafod unrhyw beth am Visibly Better neu i gael rhagor o wybodaeth, gallwch anfon e-bost atom ar [email protected] neu ffoniwch ni ar 0141 739 3683.