Sut gellid gwella'r asesiad Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)?
Cyn bo hir bydd Llywodraeth y DU yn adolygu'r asesiad Taliad Annibyniaeth Personol (PIP), dan arweiniad y Gweinidog ar gyfer Nawdd Cymdeithasol ac Anabledd, Syr Stephen Timms.
Er mwyn helpu'r RNIB i baratoi a sicrhau bod pobl ddall ac â golwg rhannol yn gallu dylanwadu’n ystyrlon ar yr adolygiad, rydym eisiau clywed eich barn chi ar yr asesiad PIP presennol ac unrhyw syniadau sydd gennych chi ar gyfer ei wella.
Diolch i chi am roi amser i gwblhau ein harolwg byr. Os oes arnoch chi angen help i lenwi’r ffurflen, gallwch ffonio Llinell Gymorth yr RNIB ar 0303 123 9999 neu gysylltu â ni ar [email protected].
Mae'r RNIB wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd chi ac rydym eisiau eich sicrhau bod eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel gyda ni ac na fyddwn yn gwerthu eich manylion i drydydd partïon byth. Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein polisi preifatrwydd ar ein gwefan: www.rnib.org.uk/privacy-policy
Mae angen y meysydd a nodir â *.