Gweld Cymru'n Wahanol: hygyrchedd ac iechyd y llygaid yng nghefn gwlad Cymru

An image of the Welsh country side. The view is of a lake at sunset, the sky is a dusty orange and blue colour.
Mae Gweld Cymru'n Wahanol yn brosiect tair blynedd cyffrous a fydd yn gwneud tirweddau a chymunedau gwledig yng Nghymru yn fwy hygyrch i bobl ddall ac â golwg rhannol.
O wanwyn 2025 ymlaen, byddwn yn gweithio ledled Cymru i gyflawni’r canlynol:
- gwneud y Parciau Cenedlaethol a'r Tirweddau Cenedlaethol yn fwy hygyrch
- codi ymwybyddiaeth o golled golwg ac iechyd y llygaid mewn cymunedau gwledig, yn enwedig yn y byd ffermio.
Gwneud yr awyr agored yn hygyrch
Mae Cymru'n cynnig rhai o'r tirweddau mwyaf trawiadol yn y DU, gyda thri Pharc Cenedlaethol a phump Tirwedd Genedlaethol. Ond yn rhy aml, mae pobl ddall ac â golwg rhannol yn wynebu rhwystrau wrth geisio cael mynediad i'r mannau hyn.
Rydym yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod pawb yn gallu mwynhau tirweddau ledled Cymru.
Bydd Gweld Cymru'n Wahanol yn cynnig y canlynol:
- hyfforddiant ymwybyddiaeth o golled golwg i staff a gwirfoddolwyr
- archwiliadau hygyrchedd ar gyfer gwefannau, adeiladau a gofod awyr agored
- canllawiau i gyflawni Safon Cyflogwr Gwell yn Weladwy yr RNIB
- helpu i wneud gweithgareddau'n hygyrch, fel teithiau cerdded tywys a llwybrau gyda disgrifiad sain.
Gweithio gyda ffermwyr a chymunedau gwledig
Disgwylir y bydd mwy na 133,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda cholled golwg yn ystod y 10 mlynedd nesaf. Gall profion llygaid rheolaidd atal llawer o hyn, ond mewn ardaloedd gwledig mae llawer o bobl yn gohirio apwyntiadau oherwydd cost, amserlenni prysur neu ddiffyg ymwybyddiaeth. Mae ffermwyr hefyd yn wynebu risgiau uwch o anafiadau i'r llygaid, gan wneud iechyd a diogelwch y llygaid yn bwysicach fyth.
Bydd Gweld Cymru'n Wahanol yn cyflawni’r canlynol:
- gweithio gyda sefydliadau ffermio fel Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru, Undeb Amaethwyr Cymru ac NFU Cymru
- hyfforddi cynghorwyr colled golwg lleol i weithredu fel llysgenhadon iechyd y llygaid.
- hyrwyddo'r defnydd o offer diogelwch i leihau anafiadau i'r llygaid ar ffermyd
- cydweithio â busnesau ffermio a darparwyr hyfforddiant i gynhyrchu fideos iechyd a diogelwch y llygaid
- ffurfio partneriaethau gydag optegyddion, martiau a sioeau lleol i godi ymwybyddiaeth o ofal llygaid mewn ardaloedd gwledig.
Cysylltu â ni
Anfonwch e-bost atom ar [email protected] i gael gwybod sut gallwch chi, eich cymuned neu eich sefydliad gymryd rhan.

An image of a herd of cows grazing on the Welsh country side, the sky is cloudy with the sun shining through.