Gwasanaethau bws yn “methu eu teithwyr dall ac â golwg rhannol yng Nghymru”
Dim ond un o bob 10 o bobl ddall neu â golwg rhannol all wneud yr holl siwrneiau maen nhw eisiau neu angen eu gwneud ar fws yng Nghymru, yn ôl adroddiad a ryddhawyd heddiw gan RNIB Cymru.
Mae bysiau’n ddull hanfodol o gludiant ar gyfer pobl ddall ac â golwg rhannol er mwyn cael mynediad at waith, gofal iechyd, addysg a gweithgareddau cymunedol. Mae adroddiad 'Pawb ar y Bws' RNIB Cymru yn dangos bod bron i hanner (43 y cant) yn teimlo bod gwneud siwrneiau bws cyfarwydd naill ai'n eithaf anodd neu'n anodd iawn a chododd hyn i bron i naw o bob deg (87 y cant) ar gyfer siwrneiau anghyfarwydd.
Wynebu heriau ar bob cam o’r daith
Mae'r elusen yn tynnu sylw at heriau ym mhob cam o siwrnai bws person sydd â cholled golwg, o gynllunio eu taith, i gyrraedd y safle bws, a mynd ar y bws a dod oddi arno.
Ymhlith y canfyddiadau eraill yn yr adroddiad, yn seiliedig ar adborth gan bobl ddall ac â golwg rhannol yng Nghymru, roedd y canlynol:
- Dim ond dau y cant all gael mynediad at amserlenni mewn safleoedd bws.
- Dywedodd mwy na hanner (51 y cant) yr ymatebwyr eu bod wedi cael anhawster dod o hyd i'r safle bws cywir wrth wneud siwrneiau bws cyfarwydd. Cododd hyn i 61 y cant wrth wneud siwrneiau anghyfarwydd.
- Ni all un o bob pedwar (27 y cant) adnabod eu safle bws lleol yn hawdd.
- Mae 80 y cant yn dweud bod y cyhoeddiadau sain "weithiau, pur anaml, neu byth" yn bresennol.
- Mae bron i dri o bob pedwar (71 y cant) yn dweud nad oes gan yrwyr bysiau hyfforddiant addas i gefnogi pobl ddall ac â golwg rhannol.
Profiadau teithwyr dall neu a golwg rhannol
Dywed Carole Morgan, 70 oed o Gaerdydd: “Fel rhywun sy’n byw gyda cholled golwg, byddwn wrth fy modd yn gallu dibynnu ar fy ngwasanaethau bws lleol i fynd â mi i’m swyddogaethau gwirfoddoli a fy apwyntiadau meddygol ond, yn anffodus, dydi hynny ddim yn bosib.
“Un o’r pethau mwyaf rhwystredig yw methu â darllen yr amserlen, mae’n rhwystr mawr. Yn y safleoedd bws, maen nhw wedi’u hargraffu’n rhy fach ac wedi’u gosod mor uchel fel nad oes gen i unrhyw obaith o allu eu darllen.
“Os ydw i’n llwyddo i fynd ar y bws cywir, mae dod o hyd i sedd flaenoriaeth wedi mynd yn llawer anoddach, a phan fydd llawer o bobl ar fws mae’n anodd symud drwyddyn nhw gyda fy nghi tywys.
Ychwanegodd Carole: “Nid yw’r gyrwyr yn gymwynasgar bob amser chwaith. Yn aml, dydyn nhw ddim yn rhoi gwybod i chi os yw’r bws yn rhy llawn, ac fe fyddan nhw’n symud y bws yn ei flaen cyn i chi eistedd i lawr, sy’n gallu bod yn beryglus iawn.
“Fe fyddwn i wrth fy modd yn gweld trafodaeth yn agor rhwng cwmnïau bysiau a theithwyr dall ac â golwg rhannol. Rydw i wedi cael cyfle i siarad â gyrwyr fel rhan o fy nyletswyddau gwirfoddoli ac mae bob amser wedi bod yn hynod gadarnhaol.”
Dywed Rob Williams, 30 oed, o Riwabon ger Wrecsam: “Y broblem fwyaf i mi yn bendant yw’r gyrwyr. Mae eu hagwedd a'u hyfforddiant yn teimlo mor anghyson, sy'n rhwystredig, oherwydd rydw i'n ddibynnol arnyn nhw yn aml i roi gwybod i mi pryd rydw i yn y stop cywir.
“Rydw i'n gwbl ddall, felly heb rywun i ddweud wrthyf i ble rydw i does gen i ddim unrhyw ffordd o wybod, yn enwedig ar lwybr anghyfarwydd. Yn y gorffennol mae gyrwyr wedi cofio ar ôl i ni fynd heibio'r stop ac rydw i wedi cael fy ngollwng yn y glaw ar ochr prif ffordd heb balmant, oedd ddim yn ddelfrydol.
“Un tro fe ddywedwyd wrthyf i ein bod ni wedi mynd heibio i fy stop ac roedd rhaid i mi ddewis rhwng cerdded tair milltir yn ôl neu aros sawl awr am y bws nesaf yn mynd y ffordd arall.”
Argymhellion RNIB Cymru ar gyfer gwasanaeth bws cynhwysol
Yn seiliedig ar ganfyddiadau ei adroddiad, mae RNIB Cymru yn gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru a gweithredwyr bysiau lleol ar sut gallant wneud eu gwasanaethau'n fwy cynhwysol a hygyrch. Mae'r rhain yn cynnwys sicrhau bod amserlenni digidol a chorfforol yn hygyrch i bawb, gwella dyluniad safleoedd a gorsafoedd bws, a gwarantu lefel gyson o wybodaeth a chymorth sain ar fysiau.
Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno Bil Gwasanaethau Bws Cymru yn y Senedd, rhywbeth y mae RNIB Cymru yn gobeithio fydd yn gwneud teithio ar fysiau yn fwy hygyrch i’r 112,000 o bobl ddall ac â golwg rhannol sy’n byw yng Nghymru.
Dywedodd Ansley Workman, Cyfarwyddwr Gwlad RNIB Cymru: “Mae teithio ar fysiau’n gwbl hanfodol i bobl ddall ac â golwg rhannol. Yn anffodus, mae gwasanaethau bws yng Nghymru yn methu eu teithwyr dall ac â golwg rhannol drwy fod yn eithriadol anhygyrch.
“Ni ddylai unrhyw un sydd â cholled golwg deimlo ei fod yn gorfod goresgyn rhwystrau ym mhob cam o’i siwrnai bws. Dyma pam nad yw ein hadroddiad ni’n tynnu sylw at broblemau yn unig, mae’n cynnig llawer o atebion.
Rydyn ni eisiau gweld adnoddau cynllunio bysiau sy’n hygyrch ac yn gweithio gyda thechnoleg gynorthwyol, a llwybrau mwy diogel i ac o safleoedd bws sydd wedi’u cynllunio i fod yn gynhwysol. Ar fysiau mae angen newidiadau hefyd, gyda chyhoeddiadau sain dibynadwy ar gael ar bob bws, a gyrwyr sy'n teimlo'n hyderus i gefnogi eu teithwyr sydd â cholled golwg.
“Gallai'r gwelliannau hyn newid bywydau pobl ddall ac â golwg rhannol sy'n dibynnu ar deithio hygyrch ar fws i fyw bywyd llawn ac actif.”