Yn ôl y gyfraith, rhaid i bob gorsaf bleidleisio arddangos copi print bras o'r papur pleidleisio i gyfeirio ato. Rhaid iddynt hefyd ddarparu copi cyfeirio i chi fynd ag o i’r bwth gyda chi. Gallwch ddefnyddio'r copi print bras i ddarllen yr holl wybodaeth ar y ffurflen bleidleisio, ond rhaid i chi fwrw eich pleidlais ar bapur pleidleisio print safonol.
Pleidleisio ac etholiadau: beth sydd angen i chi ei wybod
Llaw yn gollwng papur pleidleisio wedi’i blygu mewn blwch pleidleisio.
Mae gan bob pleidleisiwr hawl i bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol, ac mae'n rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod gorsafoedd pleidleisio yn hygyrch i bobl sydd â cholled golwg.Ar ddydd Iau 7 Mai mae Etholiad Senedd Cymru, lle bydd pleidleiswyr yn dewis eu Llywodraeth a'u Haelodau Senedd nesaf ar gyfer Cymru.
Ar y dudalen hon
Dyddiadau a therfynau amser pwysig cyn etholiad dydd Iau 7 Mai
- Y dyddiad cau i gofrestru i bleidleisio yw dydd Llun 20 Ebrill 2026.
- Y dyddiad cau i wneud cais am bleidlais bost yw 5pm ar ddydd Mawrth 21 Ebrill 2026.
- Y dyddiad cau i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy (proxy) yw 5pm ar ddydd Mawrth 28 Ebrill 2026.
Sut i ofyn am addasiad rhesymol
Mae gennych hawl i ofyn am addasiad rhesymol i bleidleisio yn etholiad y Senedd. Byddem yn eich annog i ysgrifennu at eich Swyddog Canlyniadau lleol neu wasanaethau etholiadol lleol cyn gynted â phosib, i'w hysbysu bod arnoch angen addasiadau rhesymol er mwyn pleidleisio'n annibynnol.
Cam 1
Dewch o hyd i wybodaeth gyswllt eich Gwasanaethau Etholiadol / Swyddog Canlyniadau lleol, ar adnodd chwilio am god post y Comisiwn Etholiadol.
Cam 2
Defnyddiwch ein llythyr hysbysu templed i ofyn am ddyfais sain:
- Templed i ofyn am ddyfais sain i bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio - English (Word)
- Templed i ofyn am ddyfais sain i bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio - Welsh (Word)
NEU
Defnyddiwch ein llythyr hysbysu templed i ofyn am ddyfais sain-gyffyrddol:
- Templed i ofyn am ddyfais sain-gyffyrddol i bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio - English (Word)
- Templed i ofyn am ddyfais sain-gyffyrddol i bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio - Welsh (Word)
Beth allwch chi ofyn amdano
Chwaraeydd Sain Accord
Gellir defnyddio dyfais sain yn yr orsaf bleidleisio, gan ganiatáu i'r pleidleisiwr adolygu'r papur pleidleisio drwy wrando ar recordiad o'r ymgeiswyr yn yr un drefn ag y maen nhw’n ymddangos ar y papur pleidleisio. Dim ond un fersiwn o ddyfais o'r fath yw dyfais sain Accord. Mae'n ddyfais sain USB gyda recordiad wedi'i lwytho ymlaen llaw o'r papur pleidleisio. Gellir ei ddefnyddio ar y cyd â Dyfais Bleidleisio Gyffyrddol (TVD) neu dempled tebyg sy'n ffitio dros y papur pleidleisio i leoli'r bocsys pleidleisio.
Dyfais Sain-gyffyrddol: y Darllenydd McGonagle (MGR)
Dyfais sain-gyffyrddol yw hon, gyda chwaraeydd sain integredig. Mae'n cynnwys templed plastig sy'n ffitio ar y papur pleidleisio i alluogi pobl ddall ac â golwg rhannol i ddod o hyd i'r bocsys pleidleisio. Mae ein hymchwil a'n hadroddiadau'n dangos mai dyma'r datrysiad gorau sydd ar gael ar hyn o bryd.
Apiau ffonau symudol
Mae canllawiau wedi cael eu rhoi hefyd i staff gorsafoedd pleidleisio i nodi'n glir bod pobl ddall ac â golwg rhannol yn gallu defnyddio apiau ffôn symudol (fel “Seeing AI” sy’n gallu defnyddio Deallusrwydd Artiffisiali ddarllen testun print), neu ddyfeisiau chwyddo fideo, fel addasiad rhesymol i bleidleisio.
Hygyrchedd ar ddiwrnod yr etholiad
Yn unol â Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru), mae'n ofynnol i Swyddogion Canlyniadau – swyddogion sy'n goruchwylio etholiadau – wneud darpariaethau i bobl anabl i alluogi pleidlais annibynnol a chyfrinachol. Rhaid i Swyddogion Canlyniadau ddilyn canllawiau hygyrchedd y Comisiwn Etholiadol.
Er mwyn cefnogi pleidleiswyr dall ac â golwg rhannol, mae'n ofynnol i bob gorsaf bleidleisio gael y canlynol:
- Dyfais bleidleisio gyffyrddol (TVD).
- Copi print bras o'r papur pleidleisio i gyfeirio ato.
- Chwyddwydrau.
- Golau ychwanegol.
- Cymorth gan staff yr orsaf bleidleisio i gael eich tywys i'r bwth pleidleisio ac i farcio eich pleidlais, os oes angen.
Mae'n ofynnol hefyd i Swyddogion Canlyniadau ragweld yr hyn sydd ei angen yn eu hardal a gallant ddarparu offer ychwanegol, fel dyfais sain, i alluogi unigolyn i bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol.
Darllen mwy am gyfarwyddyd y Comisiwn Etholiadol ar gyfer Swyddogion Canlyniadau.
Mwy am bleidleisio hygyrch
Os ydych chi’n cael anhawster llenwi'r papur pleidleisio print safonol, gallwch ddefnyddio dyfais bleidleisio gyffyrddol i helpu i farcio eich pleidlais yn y lle cywir. O dan gyfarwyddyd y Comisiwn Etholiadol, mae'n ofynnol i bob gorsaf bleidleisio ddarparu dyfais gyffyrddol i bobl sydd â cholled golwg.
Mae gan y ddyfais bleidleisio gyffyrddol gefn gludiog, sy'n glynu ar ben eich papur pleidleisio. Mae ganddi ddrysau codi wedi’u rhifo (mae'r rhifau wedi'u codi ac mewn braille) yn uniongyrchol dros y bocsys lle rydych chi'n marcio eich pleidlais.
Bydd angen i chi ddefnyddio'r ffurflen bleidleisio print bras, chwyddwydrau neu unrhyw ddarpariaeth sain i adolygu'r wybodaeth ar y papur pleidleisio, er mwyn pleidleisio gan ddefnyddio'r TVD. Mae'r ymgeiswyr wedi’u rhestru yn nhrefn yr wyddor. Bydd angen i chi gofio rhif yr ymgeisydd rydych chi eisiau pleidleisio drosto, wedyn codi'r drws gyda'r un rhif a marcio eich croes (X) yn y bocs.
Wedyn gallwch ddatgysylltu'r ddyfais gyffyrddol a phlygu eich papur pleidleisio yn ei hanner cyn ei bostio yn y blwch pleidleisio.
I wybod trefn yr ymgeiswyr ar y papur pleidleisio gallwch anfon cais at eich Swyddog Canlyniadau lleol am ddarpariaeth sain. Efallai y bydd yn gallu darparu dyfais sy’n gallu darllen trefn yr ymgeiswyr fel maen nhw wedi’u rhestru ar y papur pleidleisio, neu rannu ffeil sain cyn yr etholiadau gyda'r rhestr o ymgeiswyr, yn y drefn maen nhw’n ymddangos ar y papur pleidleisio.
Os ydych chi’n cael anhawster defnyddio'r papur pleidleisio print bras a'r ddyfais bleidleisio gyffyrddol, gallwch hefyd ofyn i rywun eich helpu yn yr orsaf bleidleisio. Gallant helpu i'ch tywys rhwng y fynedfa, y ddesg, y bwth pleidleisio a'r blwch pleidleisio. Gallant hefyd bleidleisio ar eich rhan os byddwch yn dewis hynny.
Gallai'r person sy'n eich helpu chi fod yn un o staff yr orsaf bleidleisio neu'n ffrind i chi. Yn dilyn newidiadau a gyflwynwyd yn y Ddeddf Etholiadau, gall eich ffrind fod yn unrhyw un dros 18 oed. Bydd gofyn i'ch ffrind wneud datganiad ysgrifenedig yn nodi eich bod wedi gofyn am gymorth.
Os ydych chi wedi cofrestru i bleidleisio ond na fyddwch yn gallu cyrraedd gorsaf bleidleisio i bleidleisio, gallwch benodi rhywun rydych yn ymddiried ynddo i fynd i'ch gorsaf bleidleisio i bleidleisio ar eich rhan. Yr enw ar hyn yw pleidleisio drwy ddirprwy.
Yn wahanol i bleidleisio drwy'r post, mae angen i chi roi rheswm dros eich pleidlais drwy ddirprwy. Dylai egluro eich bod yn ei chael yn anodd cyrraedd yr orsaf bleidleisio oherwydd eich colled golwg neu anabledd arall fod yn ddigon.
Bydd angen i chi gofrestru i bleidleisio drwy ddirprwy chwe diwrnod gwaith o leiaf cyn yr etholiad drwy lenwi ffurflen gais (mae gwahanol ffurflenni cais yn dibynnu ar eich rheswm dros ofyn am bleidlais drwy ddirprwy) a'i hanfon yn ôl i'ch swyddfa gofrestru etholiadol leol. Oni bai eich bod wedi eich cofrestru'n ddall, bydd arnoch angen rhywun i gefnogi eich cais (fel meddyg teulu neu weithiwr cymdeithasol).
Gallwch ffonio gwasanaethau etholiad eich awdurdod lleol i gael un o'r ffurflenni hyn.
Gallwch wneud cais i bleidleisio drwy'r post yn hytrach na mynd i orsaf bleidleisio.
Os ydych chi wedi cofrestru i bleidleisio drwy'r post, bydd eich papur pleidleisio yn cael ei anfon atoch. Gallwch fwrw eich pleidlais yn eich cartref eich hun gan ddefnyddio eich chwyddwydr neu eich offer eich hun, yn hytrach na mynd i'ch gorsaf bleidleisio.
Gallwch hefyd ofyn am gymorth gartref, gan gynnwys dyfais bleidleisio gyffyrddol, ffurflen bleidleisio print bras i gyfeirio ati, a help gyda dychwelyd eich ffurflen bleidleisio wedi'i chwblhau.