Shop RNIB Cyfrannwch nawr

Yr RNIB yn dathlu 90 mlynedd o’n gwasanaeth Llyfrau Llafar poblogaidd

Ymunwch â ni i nodi pen-blwydd y Llyfrau Llafar yn naw deg oed gyda recordiad arbennig iawn o Pride and Prejudice.

Eleni, mae’r RNIB yn dathlu naw degawd o un o’n gwasanaethau mwyaf poblogaidd ni, gan roi’r pleser o ddarllen i filoedd o bobl ddall ac â golwg rhannol. Heddiw, mae dros 70,000 o ddefnyddwyr yn mwynhau'r gwasanaeth.

Lansiwyd y Llyfrau Llafar ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, pan ddychwelodd miloedd o filwyr a oedd wedi colli eu golwg adref yn methu darllen. Mae'r gwasanaeth yn parhau i esblygu – o recordiau shelac oedd yn cael eu chwarae ar ramoffon i wrandawyr heddiw sydd bellach yn mwynhau dros 50,000 o deitlau drwy Alexa, lawrlwythiadau digidol, USB a CD Daisy.

Mwynhewch ein recordiad arbennig Pride and Prejudice

I nodi'r garreg filltir yma, rydyn ni wedi ymuno ag wynebau a lleisiau enwog ar gyfer recordiad arbennig o nofel ramantus glasurol Jane Austen, Pride and Prejudice.

Yn rhad ac am ddim i bawb ei fwynhau, mae'r recordiad hwn yn dod â chymeriadau enwog Austen yn fyw gyda phobl fel Adjoa Andoh o Bridgerton, Phil Dunster o Ted Lasso, Corinna Brown o Heartstopper a Mark Bonnar o Celebrity Traitors.

Fe wnaeth yr actores Lucy Scott, sy'n un o adroddwyr Llyfrau Llafar yr RNIB ers y cyfnod hiraf, ac a chwaraeodd ran Charlotte Lucas yn fersiwn y BBC o Pride and Prejudice yn 1995, gamu’n ôl i fyd cymeriadau Austen ar gyfer y recordiad.

Mae'r Arglwydd Fellowes o Orllewin Stafford, Is Lywydd yr RNIB a Llywydd y Llyfrau Llafar, yn darparu rhagair ac, yn garedig iawn, yn darllen un o'r penodau.

Corinna Brown

Mae Corinna yn fwyaf adnabyddus am ei rhannau yn y cyfresi poblogaidd Heartstopper a The Summer I Turned Pretty.

“Mae Pride and Prejudice yn un o'r llyfrau hynny sy'n oesol ac mae pobl yn hoffi’r stori gymaint heddiw ag yr oedden nhw pan gafodd ei chyhoeddi gyntaf. Rydw i wir yn gobeithio bydd y recordiad yma’n cyflwyno darllenwyr newydd i stori mor wych.

“Mae wedi bod yn hyfryd bod yn rhan fechan o helpu Llyfrau Llafar yr RNIB i ddathlu 90 mlynedd … pob dymuniad da at gyrraedd y ganrif.”

Corrina Brown, a woman in her late 20s sitting on a chair in a recording studio smiling facing the camera, she is wearing a light brown tank top and dark brown jeans.

Adjoa Andoh MBE

Mae Adjoa Andoh MBE yn seren llwyfan a sgrin ac yn fwyaf adnabyddus am ei rôl eiconig fel Lady Danbury yn Bridgerton. Mae ei hymddangosiadau eraill ar y teledu yn cynnwys Silent Witness, The Witcher, Dr Who, a Law & Order UK. Mae Adjoa wedi cael prif rannau gyda’r National Theatre, y Royal Shakespeare Company, y Royal Court a theatr y Globe Shakespeare. Mae hi'n adroddwr llyfrau sain arobryn ac mae wedi cwblhau mwy na 250 o deitlau. Mae gan Adjoa hanes maith o recordio Llyfrau Llafar gyda'r RNIB.

“Rydw i wedi bod yn ymwneud â chefnogi’r RNIB ers blynyddoedd lawer. Fe gafodd aelod teulu annwyl i mi diwmor ar yr ymennydd rai blynyddoedd yn ôl, a’r canlyniad oedd iddynt golli eu golwg. Roeddynt yn ddarllenydd brwd cyn hynny, ac roedd darganfod y Llyfrau Llafar yn syndod iddynt i ddechrau, yn ogystal â datgeliad pwysig ac, yn y pen draw, yn hwb enfawr a alluogodd iddynt barhau â'u hoffter o ddarllen.”

Adjoa Andoh, a woman in her early 60s sitting in a chair in a recording studio smiling and looking at the camera. She is wearing a dark blue shirt.

Phil Dunster

Mae Phil yn fwyaf adnabyddus am ei rôl fel Jamie Tartt yn Ted Lasso a chafodd ei enwebu am Wobr Emmy Primetime am chwarae’r rhan fel Actor Cefnogol Rhagorol mewn Cyfres Gomedi. Bydd i’w weld nesaf yn serennu yn Rooster gan HBO ochr yn ochr â Steve Carell.

“Mae gwasanaeth Llyfrau Llafar yr RNIB yn adnodd mor anhygoel. Mae'n siarad drosto'i hun pa wahaniaeth mae'n ei wneud i bobl ddall ac â golwg rhannol o ystyried ei fod wedi bodoli ers cymaint o amser, ac mae'n anhygoel ei fod wedi bod o gwmpas ers 90 mlynedd i ddod â phleser darllen i bawb sy'n byw gyda cholled golwg.

“Mae’r Llyfrau Llafar yn sioe wych o hygyrchedd y gall cymaint o bobl elwa ohoni, ac rydw i wir yn ddiolchgar am fod yn rhan o rywbeth mor werthfawr i gymaint o bobl.”

Phil Dunster, a man in his early 30s sitting in a chair in a recording studio whilst smiling and looking at the camera. He is wearing a black hoodie, blue jeans and large over ear headphones.

Lisa George

Serennodd Lisa fel Beth Tinker yn Coronation Street ar ITV am 13 mlynedd, gan adael yr opera sebon yn 2024 a chael rhannau yn y theatr ledled y DU. Cafodd ddiagnosis o'r cyflwr golwg NAION (niwropatheg optig isgemig an-arteritig blaen) yn 2022.

"O fy mhrofiad i fy hun o gael gwybod fy mod i'n colli fy ngolwg, rydw i'n gwybod pa mor bwysig yw gwasanaethau fel y Llyfrau Llafar a sut maen nhw’n gallu gwneud byd o wahaniaeth i fywyd bob dydd, felly fe wnes i neidio ar y cyfle i fod yn rhan o recordiad yr RNIB o Pride and Prejudice.

“Mae’r Llyfrau Llafar yn wasanaeth eiconig ac mae Pride and Prejudice yn stori garu eiconig, felly mae cael y cyfle i gynnig fy llais i'r recordiad yma wedi bod yn anrhydedd.”

Lisa George, a woman in her mid 50s sitting in a recording studio, she is turned in her chair to face the camera smiling. She is wearing a brown t shirt and over ear headphones.

Alistair Petrie

Mae Alistair wedi serennu mewn rhaglenni teledu fel Sex Education, The Night Manager, Andor, Sherlock, a nifer o raglenni poblogaidd eraill a dramâu eiconig.

“Fel darllenydd brwd ac ar ôl recordio nifer o Lyfrau Llafar ar gyfer yr RNIB dros y blynyddoedd, mae wedi bod yn bleser bod yn rhan o’r prosiect yma a dathlu pen-blwydd y gwasanaeth gwych yma’n 90 oed. Does dim pleser gwell nag ymgolli mewn stori dda, ac mae’r Llyfrau Llafar wedi sicrhau bod pawb yn gallu profi’r llawenydd yma.”

Alistair Petrie, a man in his mid 50s standing in a recording booth in front of a microphone, smiling and looking at the camera. He is wearing a grey hoodie, a grey baseball cap and over ear headphones.

Lucy Scott

Mae Lucy wedi serennu ar y llwyfan a'r sgrin yn ystod ei gyrfa ac mae hi'n adnabyddus iawn am ei rôl fel Charlotte Lucas yng nghynhyrchiad y BBC o Pride and Prejudice yn 1995.

“Mae wedi bod yn bleser camu’n ôl i fyd Jane Austen a Pride and Prejudice, 30 mlynedd ar ôl actio yng nghynhyrchiad y BBC o’r stori garu glasurol yma.

“Mae helpu i ddod â’i chymeriadau’n fyw unwaith eto ac i nodi achlysur mor arbennig wedi bod yn anrhydedd, ac mae’r ffaith bod y Llyfrau Llafar wedi bod yn adnodd mor hanfodol i bobl ddall ac â golwg rhannol ers 90 mlynedd yn dangos pwysigrwydd a gwerth darllen i bawb.”

Lucy Scott, a woman in her mid 50s in a recording booth turned to face the camera smiling, a microphone is in front of her. She is wearing a dark blue shirt, olive green scarf and over ear headphones around her neck.

Mark Bonnar

Mae Mark wedi serennu mewn llawer o ddramâu anhygoel fel Dept Q a Line of Duty, a chynrychiolodd yr Alban hefyd yn y gyfres gyntaf o'r Celebrity Traitors.

“Rydw i’n cael fy adnabod fel rheol am chwarae cymeriadau eithaf moesol amwys, felly roedd yn newid hyfryd cael camu i fyd Pride and Prejudice a chynnig fy llais ar gyfer gwasanaeth anhygoel sydd wedi dod â llawenydd i bobl sy’n byw gyda cholled golwg ers cymaint o flynyddoedd.

“Mae’r byd a greodd Austen drwy ei hysgrifennu yn fyd-enwog, ac mae camu i’r byd yma ar gyfer yr RNIB i nodi pen-blwydd y Llyfrau Llafar wedi bod yn wych.”

Mark Bonner, a man in his late 50s standing inside a recording studio in front of a microphone, he is turned to face the camera smiling. He is wearing a black hoodie and over ear headphones around his neck.

Kiell Smith-Bynoe

Mae'r actor a'r digrifwr Kiell wedi gwneud enw iddo'i hun drwy rannau yn Ghosts, Stath Lets Flats, a thrwy ymddangosiadau ar Taskmaster a The Great British Sewing Bee.

“Rydw i’n gwybod o brofiad y gwahaniaeth y gall gwasanaethau fel y Llyfrau Llafar ei wneud i bobl sy’n byw gyda cholled golwg. Fe gollodd fy nhaid ei olwg yn ifanc, felly roedd yn ddewis hawdd iawn i mi gymryd rhan yn recordiad yr RNIB o Pride and Prejudice i ddathlu pen-blwydd eu gwasanaeth Llyfrau Llafar yn naw deg oed.”

Kiell Smith-Bynoe, a man in his mid 30s sitting on the stairs looking at the camera, he is wearing an orange cardigan.

Charlotte Ritchie

Mae Charlotte wedi dod yn wyneb poblogaidd iawn ar deledu Prydain drwy rannau yn Ghosts, Call the Midwife, Fresh Meat a'r gyfres boblogaidd ar Netflix, You.

“Mae gwybod pa mor hanfodol yw gwasanaeth y Llyfrau Llafar i gymaint o bobl ddall ac â golwg rhannol wedi golygu ei bod hi’n anrhydedd fawr bod yn rhan o’r recordiad yma.

“Mae rhoi’r rhodd o ddarllen i gymaint o bobl dros y 90 mlynedd diwethaf yn garreg filltir enfawr, ac mae’n fraint ymwneud â’r gwasanaeth yma a’i gefnogi.”

Charlotte Ritchie, a woman in her mid 30s sitting in a recording studio, turned to face the camera, smiling. she is wearing a dark brown blazer.

Ben Willbond

Yn adnabyddus am ei waith fel actor a sgriptiwr, Ben yw cyd-grëwr a seren Ghosts a Horrible Histories, ac mae hefyd wedi serennu yn Inside No.9, The Wives a There She Goes.

“Mae’r cyfle yma wedi dysgu cymaint i mi am y Llyfrau Llafar a sut maen nhw wedi bod yn achubiaeth i bobl ddall ac â golwg rhannol ers 90 mlynedd ac yn parhau i wneud hynny heddiw.

“Mae gwybod am y rôl bwysig mae’r RNIB a’r Llyfrau Llafar yn ei chwarae wrth ddod â byd llenyddiaeth i bobl sydd â cholled golwg wedi gwneud hwn yn brosiect gwych i fod yn rhan ohono.”

Ben Willbond, a man in his early 50s sat in a recording studio, turned to face the camera. He is wearing a navy blue cardigan and blue jeans.

Shazia Mirza

Digrifwr stand-yp ac awdur arobryn Prydeinig. Mae Shazia wedi ymddangos ar EastEnders, QI, House of Games Richard Osman a Would I Lie To You.

“Ar ôl bod yn rhan o stori ar Eastenders yn ddiweddar a oedd yn cynnwys babi wedi’i eni gydag amhariad ar ei olwg, mae wedi bod yn gyfle gwych cael ymwneud â’r RNIB a’u recordiad arbennig o Pride and Prejudice. Mae bod yn rhan o stori glasurol i ddathlu gwasanaeth sydd wedi bod yn dod â llenyddiaeth yn fyw ers 90 mlynedd wedi bod yn brofiad gwych ac mae’n anrhydedd i mi fod yn rhan ohono.”

Shazia Mirza, a woman in her early 50s sitting in a recording studio, smiling at the camera whilst wearing an orange top and headphones.

Victoria Smurfit

Mae Victoria Smurfit yn actores arobryn sy'n fwyaf adnabyddus am ei gwaith yn y byd ffilm, teledu a theatr, gan gynnwys Rivals, Once Upon a Time, Trial and Retribution, Ballykissangel, Cold Feet ac About a Boy. Mae Victoria wedi bod yn gefnogwr hirdymor o’r RNIB, ers i'w thad ddod yn Is Lywydd, ac yn dilyn diagnosis ei merch Evie o Ddystroffi Macwlaidd Stargardt. “Fe gafodd fy merch hynaf i, Evie, ddiagnosis o’r cyflwr golwg Dystroffi Macwlaidd Stargardt yn 2017. Oherwydd profiadau Evie, a thrwy straeon pobl rydw i wedi cael y pleser o’u cyfarfod dros y blynyddoedd, mae gwerth gwasanaethau fel Llyfrau Llafar yr RNIB yn dod yn fyw i mi. Mae’n dod â chymaint o bleser i gymaint o fywydau ac mae’r ffaith ei fod wedi bod yn gwneud hynny ers 90 mlynedd yn gamp anhygoel.

“Roedd yn bleser cael cais i roi fy llais i’r recordiad yma o stori garu glasurol Austen, Pride and Prejudice. Rydw i’n gobeithio y bydd yn cael ei fwynhau am flynyddoedd lawer i ddod wrth i’r Llyfrau Llafar barhau i gyflwyno darllen i bobl ddall ac â golwg rhannol ymhell i’r dyfodol.

Victoria Smurfitt, a woman in her early 50s looking at the camera against a plain background.