Shop RNIB Cyfrannwch nawr

Adroddiadau

Os hoffech chi gael adroddiad wedi'i ysgrifennu gan RNIB Cymru, ffoniwch 029 2082 8500 neu e-bostiwch [email protected]. Dyma ddetholiad o'n hadroddiadau o'r ychydig flynyddoedd diwethaf.

Adroddiad Cost Colled Golwg RNIB Cymru, Mawrth 2024

Mae ymchwil RNIB Cymru yn amlygu’r effaith y mae’r argyfwng costau byw yn ei chael ar bobl ddall ac â golwg rhannol yng Nghymru. Mae’r heriau ariannol a achosir gan gost ychwanegol ond anochel colled golwg yn golygu fod pobl yn fwy ynysig ac yn gwneud hi’n anoddach i gael dau ben llinyn ynghyd. Mae tîm Newid Cymdeithasol RNIB Cymru wedi cyflwyno argymhellion wedi’u teilwra ar gyfer Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn seiliedig ar adborth gan dros 100 o bobl ddall ac â golwg rhannol ar draws y wlad.

Adroddiad Effaith RNIB Cymru 2022-2023

Mae Adroddiad Effaith blynyddol RNIB Cymru yn arddangos gwaith a chyflawniadau ein tîm yng Nghymru rhwng mis Ebrill 2022 a mis Mawrth 2023. Mae'n cynnwys gwybodaeth am ein hymgyrchoedd, gwasanaethau a digwyddiadau rydym wedi'u cynnal ledled y wlad, gyda ffocws ar sut rydym wedi parhau i dorri lawr y rhwystrau i bobl ddall ac â golwg rhannol yng Nghymru.

Adroddiadau Bod Yno

Mae RNIB Cymru wedi lansio adroddiad: Bod Yno - Datblygu dealltwriaeth o rôl hanfodol y Swyddog Cyswllt Clinig Llygaid (ECLO) yng Nghymru.

Mae cleifion yn dueddol o ddod i gysylltiad ag ECLOs (Swyddogion Cyswllt Gofal Llygaid erbyn hyn) oherwydd eu bod wedi cael diagnosis o gyflwr sy'n bygwth eu golwg. Drwy gynnwys eu straeon anodd, ond ysbrydoledig, yn y cyhoeddiad hwn, mae RNIB Cymru yn gobeithio helpu i ddiogelu dyfodol y gwasanaeth i bawb sydd ei angen.

Adroddiad Effaith ECLO

Mae RNIB Cymru wedi lansio adroddiad ar effaith y gwasanaeth ECLO - Swyddog Cyswllt Clinig Llygaid (Swyddog Cyswllt Gofal Llygaid erbyn hyn) yng Nghymru.

Yn y flwyddyn dan sylw yn yr adroddiad hwn, cefnogodd y gwasanaeth 6,730 o gleifion mewn amrywiaeth o ffyrdd: popeth o ddarparu gwybodaeth am gyflwr llygaid y claf hyd at atgyfeirio i wasanaethau arbenigol fel gwasanaeth hawliau lles RNIB Cymru, gwasanaeth cyflogaeth a gwasanaethau addysg a phontio ar gyfer plant a phobl ifanc.

Mae'r adroddiad yn nodi'r gwahaniaeth cadarnhaol y mae'r gwasanaeth ECLO yn ei wneud, i unigolion ac i staff clinig llygaid. Mae ECLO yn sicrhau bod pobl sydd newydd gael diagnosis o golled golwg yn gallu cael yr holl wybodaeth a chymorth sydd arnynt eu hangen. Gall y gwasanaeth hefyd helpu i liniaru rhywfaint o'r effaith negyddol sy'n gysylltiedig â cholled golwg, fel iechyd meddwl gwael, risg uwch o gwympo a cholli annibyniaeth.

Golwg Clir

Roedd yr adroddiad hwn yn gydweithrediad rhwng RNIB Cymru ac Ysgol Optometreg a Gwyddorau’r Golwg, Prifysgol Caerdydd. Fe'i hariannwyd gan Lywodraeth Cymru drwy'r Prosiect Golwg Gwan mewn Plant.

Mae’r adroddiad hwn yn dangos ein bod fel cymdeithas yn esgeuluso gofal llygaid disgyblion mewn ysgolion arbennig. Mae'r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol yn nodi bod angen diagnosis cynnar neu ganfod anawsterau ac ymyrraeth gynnar ar blant a phobl ifanc ag anableddau (ffynhonnell: LlCC 2005). Er enghraifft, mae deintyddion cymunedol yn ymweld ag ysgolion arbennig i asesu disgyblion a darparu triniaeth ar gyfer unrhyw broblemau a nodir - ond nid oes darpariaeth o'r fath ar gyfer gofal llygaid.