Lleisiau synthetig Cymraeg
Lleisiau synthetig Cymraeg yw Geraint a Gwyneth sy’n gallu cael eu defnyddio â phecynnau technoleg gynorthwyol, fel darllenwyr sgrin, i ddarllen cynnwys a dogfennau digidol Cymraeg yn uchel.
Fe wnaethom ddatblygu'r lleisiau hyn gyda'r cwmni meddalwedd testun-i-leferydd IVONA, diolch i arian gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r lleisiau ar gael am ddim i unigolion a sefydliadau anfasnachol.
Gallant gael eu defnyddio gan weithwyr addysg proffesiynol i gefnogi dysgwyr a gan ddysgwyr ar eu dyfeisiau ysgol a chartref. Os oes gennych gyfrif Hwb gallwch lawrlwytho'r lleisiau yn uniongyrchol o Hwb: Hwb - Lawrlwytho Lleisiau Synthetig Cymraeg
Mae'r lleisiau hyn yn gweithio gyda Windows yn unig. Maent yn lleisiau SAPI 5 ac yn gweithio gydag unrhyw becyn cynorthwyol sy'n gallu cyrchu cyfres lleisiau brodorol Windows. Mae hyn yn cynnwys: JAWS, NVDA, Supernova, Zoomtext, Read and Write, Clicker 8 a Tobii Dynavox.
Gwrando ar samplau o’r lleisiau
I ofyn am y lleisiau, anfonwch e-bost i [email protected].