RNIB Cymru yn lansio ei faniffesto ar gyfer Etholiadau’r Senedd 2026
Mae pobl ddall ac â golwg rhannol yn wynebu rhwystrau ac anghydraddoldebau annerbyniol yn eu bywydau bob dydd. Mae’r rhwystrau hyn yn eu hatal rhag cael mynediad cyfartal at ofal iechyd, trafnidiaeth gyhoeddus a’r cymorth hanfodol sydd ei angen arnynt i aros yn annibynnol wrth brofi newid yn eu golwg neu golled golwg sydyn. Gwyddom hefyd fod gormod o bobl yn colli eu golwg yn ddiangen oherwydd eu bod yn aros yn rhy hir am driniaeth.
Ein cenhadaeth ni yw cefnogi a grymuso pobl sy’n cael eu heffeithio gan golled golwg i herio anghydraddoldebau a gwella eu bywydau.Mae Cymru decach o fewn golwg i ni. Mae gan bob un ohonom ran bwysig i’w chwarae wrth greu Cymru lle gall pobl ddall ac â golwg rhannol gyflawni eu potensial a gwireddu eu huchelgeisiau. Wrth i chi baratoi eich maniffesto, mae ein cais yn syml – helpwch ni i greu Cymru decach ar gyfer pobl sydd â cholled golwg.
Rydym yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i wneud y canlynol:
1. Rhoi terfyn ar golled golwg y mae posib ei osgoi drwy roi’r Strategaeth Glinigol Genedlaethol ar gyfer Offthalmoleg ar waith, sef glasbrint sy’n cael ei arwain yn glinigol ar gyfer diwygio gwasanaethau offthalmoleg yng Nghymru.
2.Mynd i’r afael â’r loteri cod post o wasanaethau adfer golwg i sicrhau bod pob person sy’n profi colled golwg yn cael y cymorth ôl-ddiagnosis y mae ganddynt hawl iddo.
3.Cynnal hawliau pobl ddall ac â golwg rhannol i dderbyn gwybodaeth iechyd mewn fformat y gallant ei ddarllen drwy roi Safonau Gwybodaeth Hygyrch Cymru ar waith yn llawn.
4.Gwneud Cymru’n gymdeithas wirioneddol gynhwysol drwy ymgorffori Egwyddorion Allweddol yr RNIB ar gyfer Dylunio Strydoedd Cynhwysol ym mhob safon a chyfarwyddyd perthnasol ar gyfer dylunio parthau cyhoeddus a thrafnidiaeth.
RNIB Cymru is committed to working with all political parties to make Wales safe and accessible for everyone
I gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu cyfarfod, cysylltwch â Liz Willians, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus: [email protected]
Mae RNIB Cymru yn edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth nesaf Cymru i greu Cymru heb rwystrau.