Shop RNIB Cyfrannwch nawr

Ymateb RNIB Cymru i Ymchwiliad y Senedd i Wasanaethau Offthalmoleg yng Nghymru

Wrth ymateb i adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol diweddar ar wasanaethau offthalmoleg yng Nghymru, mae Cyfarwyddwraig RNIB Cymru Ansley Workman wedi cyhoeddi’r canlynol:

"Rydym yn falch o weld galwad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd am weithrediad brys i atal colled golwg y mae posib ei osgoi yng Nghymru.

Mae canfyddiadau'r ymchwiliad yn cadarnhau'r hyn y mae cleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol wedi bod yn ei ddweud wrthym ers blynyddoedd, bod gwasanaethau gofal llygaid o dan bwysau enfawr, sydd yn ei dro yn achosi i gleifion golli eu golwg pan allai fod wedi cael ei achub.

Flwyddyn yn ôl, lluniodd arbenigwyr strategaeth i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu offthalmoleg ond nid ydym wedi gweld unrhyw newidiadau neu fuddsoddiad sylweddol yn y cynllun hwn eto.

Mae RNIB Cymru yn annog Llywodraeth Cymru i weithredu'n gyflym drwy roi'r buddsoddiad hanfodol sydd ei angen ar wasanaethau offthalmoleg yng Nghymru i roi'r strategaeth hon ar waith. Mae pob oediad yn golygu bod mwy o bobl yn byw mewn ofn o golli eu golwg pan allai fod wedi cael ei achub - a mwy o fywydau yn cael eu newid am byth."