Croesewir safonau wedi'u diweddaru ar gyfer gofal iechyd yng Nghymru, ond mae mwy o waith i'w wneud o hyd
Heddiw mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Safonau Cymru Gyfan ar gyfer Cyfathrebu a Gwybodaeth Hygyrch (Safonau Cymru Gyfan) wedi'u diweddaru a'u hehangu yn dilyn cyfnod hir o ymgysylltu â byrddau iechyd, sefydliadau pobl anabl a phobl â cholled synhwyraidd.
Mae pobl ddall ac â golwg rhannol yn wynebu risgiau difrifol i'w hiechyd a'u lles oherwydd diffyg gwybodaeth iechyd hygyrch. Mae'n effeithio ar ddiogelwch, annibyniaeth, preifatrwydd ac urddas cleifion.
Cyhoeddwyd Safonau Cymru Gyfan am y tro cyntaf yn 2013. Maent yn nodi'n glir sut mae'n rhaid i fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd GIG Cymru ddarparu gwybodaeth hygyrch i gleifion sydd ag anghenion cyfathrebu. Ddeuddeng mlynedd yn ddiweddarach, mae ymchwil RNIB Cymru wedi canfod bod gwybodaeth iechyd bersonol a chyfrinachol yn cael ei darparu'n gyson i bobl ddall ac â golwg rhannol mewn fformat ysgrifenedig safonol na allant ei ddarllen.
Mae ein hadroddiad Gwna Fe i Wneud Synnwyr yn dangos bod mwy na hanner y bobl ddall ac â golwg rhannol yn dal i dderbyn gwybodaeth yn rheolaidd gan eu meddyg teulu neu ysbyty na allant ei darllen. Canlyniad hyn yw bod un o bob tri wedi methu apwyntiad gofal iechyd.
Mae RNIB Cymru wedi rhoi croeso gofalus i Safonau Cymru Gyfan wedi'u diweddaru fel cam ymlaen, er bod angen gwaith pellach i ddysgu gwersi'r deuddeng mlynedd diwethaf a sicrhau bod anghenion cyfathrebu pobl ddall ac â golwg rhannol yn cael eu diwallu'n gyson.
Mae gan bobl ddall ac â golwg rhannol – a phobl ag anghenion cyfathrebu eraill – hawl gyfreithiol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i dderbyn gwybodaeth a gohebiaeth gan wasanaethau cyhoeddus yn eu fformat hygyrch gofynnol – fel print bras, hawdd ei ddarllen, e-bost, sain a braille.
Ers gormod o amser, mae'r hawliau hyn wedi cael eu gwrthod i bobl ddall ac â golwg rhannol.
Mewn llawer o achosion, maent yn cael eu gorfodi i ddibynnu ar ffrindiau, aelodau o'r teulu, a dieithriaid hyd yn oed, i ddarllen gwybodaeth feddygol sensitif iddynt, gan danseilio eu hannibyniaeth ac amharu ar gyfrinachedd.
Mae gwybodaeth iechyd anhygyrch yn cyfrannu hefyd at ddyfnhau anghydraddoldebau iechyd ac yn rhoi pobl mewn perygl difrifol o niwed.
Mae pobl ddall ac â golwg rhannol yn dweud wrthym fod methu â darllen eu gwybodaeth iechyd eu hunain yn rhwystr enfawr i wneud apwyntiadau, deall canlyniadau prawf neu ddiagnosis, cymryd rhan mewn sgrinio, cymryd meddyginiaeth yn gywir, a pharatoi ar gyfer llawdriniaethau neu weithdrefnau eraill.
Yr hyn sydd bwysicaf yw bod pobl ag anghenion cyfathrebu bellach yn derbyn eu gwybodaeth iechyd bersonol mewn fformat sy'n gweithio iddyn nhw. Mae angen gweithredu'r Safonau wedi'u diweddaru yn drylwyr ac yn gyson ar draws y gwasanaeth iechyd yng Nghymru – gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod hyn yn digwydd.
Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau'r GIG, ochr yn ochr â rhanddeiliaid allweddol eraill, i gefnogi'r gweithredu, a sicrhau bod profiadau ac anghenion pobl ddall ac â golwg rhannol yn ganolog i'r broses.