Shop RNIB Cyfrannwch nawr

Adroddiad Effaith RNIB Cymru 2022-2023

Ar hyn o bryd mae 112,000 o bobl yn byw gyda cholled golwg yng Nghymru, a rhagwelir y bydd y nifer hwn yn cyrraedd 133,000 erbyn 2032. Ein nod yw herio camsyniadau am golled golwg, gan sicrhau bod pobl ddall ac â golwg rhannol yng Nghymru yn gallu cyfranogi’n gyfartal a chael cymorth ymarferol ac emosiynol pan fydd arnynt ei angen.

Mae Adroddiad Effaith blynyddol RNIB Cymru yn arddangos gwaith a chyflawniadau ein tîm yng Nghymru rhwng mis Ebrill 2022 a mis Mawrth 2023. Mae'n cynnwys gwybodaeth am ein hymgyrchoedd, gwasanaethau a digwyddiadau rydym wedi'u cynnal ledled y wlad, gyda ffocws ar sut rydym wedi parhau i dorri lawr y rhwystrau i bobl ddall ac â golwg rhannol yng Nghymru.

Dros y flwyddyn ddiwethaf:

  • Siaradodd 4,174 o bobl ar draws Cymru â'n Cynghorwyr Llinell Gymorth.
  • Recordiodd tîm Trawsgrifio Caerdydd 60,000 munud o lyfrau sain, papurau newydd, cylchgronau a dogfennau eraill.
  • Mynychodd 80 o blant o bob rhan o dde Cymru ddigwyddiad rygbi nam ar eu golwg (VI) a gynhaliwyd gennym mewn cydweithrediad â Sefydliad Cymunedol Rygbi Caerdydd
  • Cyrhaeddodd ein Swyddogion Cyswllt Gofal Llygaid 4,836 o gleifion, gofalwyr a theuluoedd.
  • Bu ein tîm Newid Cymdeithasol yn gweithio gyda’r cyfryngau yng Nghymru i dynnu sylw at straeon gan bobl ddall ac â golwg rhannol ledled y wlad.