Shop RNIB Cyfrannwch nawr

Golygon rhedwr o Wrecsam ar Farathon Llundain

Mae dyn a redodd Hanner Marathon Wrecsam ym mis Chwefror yn awr yn gobeithio taclo Marathon Llundain y flwyddyn nesaf.

Rhedodd Steffan Carter, 36, dadansoddydd technegol o Wrecsam Hanner Marathon 13.1 milltir Village Bakery Wrecsam ar 17 Chwefror. Rhedodd Steffan y ras gyda Brian Mapp, 53, a Tom Owen, 36, er cof am eu cyfaill a'u cydweithiwr Jamie Davies.  

Roedd Jamie, oedd â golwg rhannol yn aelod gwerthfawr o dîm cymorth Technoleg Gwybodaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Bu farw ym mis Mawrth 2018 yn 46 oed, gan adael ei wraig Cathie a'u merch Bethan.  

Ym mis Tachwedd 2018, ymunodd Steffan, Brian a Tom ar gyfer yr hanner marathon a chodi arian ac ymwybyddiaeth hanfodol ar gyfer RNIB. Cododd y tri bron £1,750 i'r elusen gyda phob un ohonynt yn gorffen y ras mewn llai na dwy awr a hanner. 

Nawr mae golygon Steffan ar Farathon Llundain 26.2 milltir ym mis Ebrill 2020 ac mae wedi gwneud cais i'w rhedeg ar ben ei hun ar gyfer Tîm RNIB.  

Dywedodd Steffan: "Roedd Jamie yn fwy na chydweithiwr, roedd yn gyfaill gwych. Ni wnaeth erioed adael i'r ffaith ei fod â golwg rhannol ei atal rhag gwneud y pethau a garai, p'un ai oedd hynny'n chwarae pêl-droed neu seiclo i'r gwaith. Fe wnaeth ei golli daro'n wael ar ein hadran. Roeddem eisiau gwneud rhywbeth i gadw'r atgof am Jamie yn fyw a chefnogi ei deulu.  

"Roedd Hanner Marathon Wrecsam yn brofiad caled ond gwych. Roeddem yn falch i wisgo ein festiau RNIB ac roedd ein ffrindiau a theulu Jamie yno i'n cymeradawyo. Roedd croesi'r llinell orffen yn eithaf emosiynol, cawsom ein synnu fod cynifer o bobl wedi rhoi arian ac amser i'n cefnogi.   

"Rwy'n dal i redeg o leiaf unwaith yr wythnos i baratoi ar gyfer fy her nesaf. Bydd Marathon Llundain yn gam mawr i fyny, ond mae'n gyffrous cefnogi'r RNIB eto ac rwyf hyd yn oed gobeithio curo fy nghyfanswm blaenorol o godi arian!"