Shop RNIB Cyfrannwch nawr

Grŵp gweu Sir Fôn yn cadw achubwyr bywyd yn gynnes ar y môr

Cyflwynodd grŵp gweu o bobl ddall ac â golwg rhannol o Gaergybi sgarffiau coch, gwyn a glas a gafodd eu gwneud gyda llaw i griwiau RNLI Sir Fôn mewn Gwasanaeth Morwyr ym mis Gorffennaf.

Gwnaeth y grŵp Gweu a Sgwrs dros 40 sgarff ar gyfer aelodau criw o bob un o orsafoedd cychod bywyd yr RNLI yn Sir Fôn yn lliwiau'r elusen. Cyflwynwyd y sgarffiau yn Eglwys Cybi Sant yng Nghaergybi ar 7 Gorffennaf mewn gwasanaeth yn diolch i'r rhai sy'n gwirfoddoli i helpu eraill.

Sefydlwyd y grŵp gweu gan Fay Jones o Gaergybi, sy'n gwirfoddoli gyda'r RNIB. Mae Fay â cholled golwg oherwydd dirywiad macwlaidd ac mae'n angerddol am wneud yn siŵr nad yw pobl ddall ac â golwg rhannol yn yr ardal yn teimlo'n ynysig. Mae'r grŵp yn agored i unrhyw un sy'n byw gyda cholled golwg a'u ffrindiau, perthnasau a gofalwyr. Mae gwirfoddolwyr hefyd yn bresennol i helpu gyda phwythau anodd.

Dywedodd Fay: "Fe wnes ddechrau gweu 50 mlynedd yn ôl gyda fy mam. Roeddwn yn wych am weu a brodwaith. Rhoddais y gorau iddi am gyfnod yn fy 20au ond ailddechrau eto pan oeddwn yn hŷn ac roeddwn wrth fy modd yn gweu patrymau Aran. Ond pan gollais fy ngolwg 14 mlynedd yn ôl roeddwn yn meddwl na fyddwn byth yn gweu eto. Roedd yn teimlo fel profedigaeth.

"Yn ffodus cefais gwnsela gan yr RNIB dros y ffôn ac fe wnaeth hynny fy helpu i addasu i fywyd ar ôl colli fy ngolwg. Dechreuais weu eto dair blynedd yn ôl ac mae'n gymaint o hwyl, felly fe wnes ddechrau'r grŵp Gweu a Sgwrs i helpu pobl eraill sy'n ddall ac â golwg rhannol yn y gymuned i ddod at ei gilydd a chael sgwrs dros y gweill. Rwy'n dal i golli pwythau nawr ac yn y man, ond diolch byth mae'n gwirfoddolwyr hyfryd yno i'w codi!

"Fe wnaeth y grŵp wir fwynhau wneud y sgarffiau arbennig yma i'r RNLI a rydym mor ddiolchgar i bawb ddaeth draw i'r Gwasanaeth Morwyr. Roedd yn ffordd wych i anrhydeddu gwasanaethau hollbwysig gwirfoddolwyr ar draws Sir Fôn ac yn ddiwrnod gwych allan."

Mae Fay hefyd yn rhedeg grŵp Gwrando ar gyfer pobl ddall ac â golwg rhannol yng Nghaergybi, sy'n rhoi cyfle i bobl gwrdd ag eraill sy'n byw gyda cholled golwg a gwrando ar straeon gyda'i gilydd. Bu mor llwyddiannus fel bod Fay bellach wedi sefydlu grŵp arall ym Mhorthaethwy. Derbyniodd Fay MBE am ei gwaith yn codi arian ar gyfer Ysbyty Gwynedd cyn cael ei diagnosis colled golwg ac enillodd Wobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn Cymru 2018 gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

Dywedodd Tony Price, Llywiwr Gorsaf Cwch Achub Caergybi, "Roedd derbyn y sgarffiau gan y grŵp Gweu a Sgwrs yn weithred mor garedig, ac roedd ein criwiau yn Sir Fôn yn ei werthfawrogi'n fawr. Roedd y Gwasanaeth Morwyr yn achlysur balch i holl wirfoddolwyr yr RNLI sy'n darparu gwasanaeth chwilio ac achub 24/7 ar ein cenhadaeth i arbed bywydau ar y môr."

Dywedodd Ansley Workman, Cyfarwyddwr RNIB Cymru: "Mae mor bwysig codi ymwybyddiaeth o ymroddiad rhagorol gwirfoddolwyr ar draws Cymru. Llongyfarchiadau i Fay a grŵp Gweu a Sgwrs Caergybi am eu gwaith gwych ar y sgarffiau a'r digwyddiad ei hun.

"Mae'r grŵp Gweu a Sgwrs yn cynnig cyfle i bobl ddall ac â golwg rhannol yng Nghaergybi i gymdeithasu, mynd allan a dysgu siliau newydd mewn amgylchedd cefnogol a chyfeillgar. Mae llawer o bobl sydd â colled golwg yn teimlo'n ynysig iawn a dyna pam fod grwpiau cymdeithasol fel rhai Fay mor bwysig."

Mae'r grŵp Gweu a Sgwrs yn cwrdd yn Llyfrgell Caergybi bob yn ail ddydd Llun am 1pm. I gael mwy o wybodaeth cysylltwch ag RNIB Cymru ar 029 2082 8500.