Mae'r lleisiau testun i lafar Cymraeg cyntaf sy'n swnio'n naturiol ar gael.
Rydym wedi datblygu’r lleisiau yma gyda chwmni meddalwedd testun i lafar IVONA, diolch i arian gan Lywodraeth Cymru. Bydd y lleisiau yma yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i siaradwyr a dysgwyr Cymraeg sy'n ddall ac â golwg rhannol. Am nad oedd 'llais' Cymraeg ar gael cyn hyn o’r un safon, ni fu'n bosibl i bobl sy'n dibynnu ar feddalwedd darllen sgrîn ddefnyddio cyfrifiaduron yn effeithiol i ddarllen gwefan, cyfnewid negeseuon e-bost na darllen neu ysgrifennu dogfennau yn Gymraeg.
Mae'r lleisiau ar gael am ddim i unigolion a sefydliadau anfasnachol a disgwylir iddynt ennyn cryn dipyn o ddiddordeb ymhlith ysgolion a cholegau sydd am ddefnyddio'r lleisiau i gynorthwyo eu dysgwyr.
Gwrandewch ar samplau o'r lleisiau:
Cynlluniwyd y lleisiau hyn i weithio gyda systemau Windows yn unig ac maent ar gael mewn fersiynau Acen Gymraeg yn y Gymraeg a'r Saesneg.
I ofyn am y lleisiau, anfonwch e-bost i [email protected]
Ein llinell gymorth yw eich llinell uniongyrchol i’r gefnogaeth, cyngor, a chynhyrchion rydych eu hangen i wynebu'r dyfodol yn hyderus. Os oes gennych chi neu rywun rydych yn ei adnabod broblem golwg, gall ein gweithwyr cyngor arbenigol helpu.
Cysylltwch â ni