Shop RNIB Cyfrannwch nawr

Beth am wrando am yr adar yn ystod y cyfyngiadau symud, medd ymgyrchydd dall

Mae ochr ryfeddol o ddifyr i gyfyngiadau symud y coronafeirws yng Nghymru.

Wrth i nifer y cerbydau ar y ffyrdd leihau, mae’n llawer haws clywed cân, trydar a thelori ein ffrindiau pluog. I rai sy’n byw yn y ddinas, gall fod y tro cyntaf iddyn nhw sylwi ar eu synau amrywiol.

Nawr mae un o’m ymgyrchwyr o Landudno sy’n hoff iawn o adar yn annog pobl ledled Cymru i rannu’r synau maen nhw’n gallu eu clywed o’u ffenest, yn yr ardd neu mewn gofod awyr agored gyda Radio RNIB Connect.

Mae Nicki Cockburn yn dweud bod dysgu gwahanol ganeuon yr adar yn un o bleserau syml bywyd.

“Rydw i wedi bod wrth fy modd gydag adar er pan oeddwn i’n blentyn” meddai. “Fe wnaeth fy nhad brynu tapiau David Attenborough i mi oedd yn dysgu cân y gwahanol adar rydych chi’n debygol o’u clywed bob mis yn y DU. Bob tro oedden ni’n mynd allan, fe fyddwn i’n dysgu enwau’r adar yr oeddwn i’n gallu eu clywed.

“Ar ôl ymweld â gwarchodfa natur leol yn 2001, fe drodd yn dipyn o obsesiwn gen i! Rydw i wedi bod ar saffari yn Zimbabwe a De Affrica ac wedi dysgu caneuon yr adar yno hefyd. Fe wnes i ymddangos ar raglen Weatherman Walking Derek Brockway yn 2016 hyd yn oed, i ddangos iddo sut brofiad yw gwrando ar adar yn canu fel person dall.

“Mae gwrando ar adar yn hobi hwylus iawn. Mae’n rhywbeth rydw i’n gallu ei wneud gystal â pherson sy’n gweld ac weithiau rydw i hyd yn oed yn gallu clywed caneuon nad yw fy ffrindiau i sy’n gweld yn gallu eu clywed.

“Mae’r cyfnod yma o gyfyngiadau symud yn amser grêt i stopio a gwrando ar y byd o’n cwmpas ni, yn enwedig gan fod yr adar yn canu’n uwch nag erioed nawr. Beth am rannu’r synau yma gyda Radio RNIB Connect a bod yn rhan o brosiect hwyliog y gall pawb gymryd rhan ynddo?”

Mae’r orsaf yn gwahodd pobl i rannu’r synau maen nhw’n eu clywed ac yn cynnig cyngor newydd ar gyfer recordio ar ffôn: 

  • Daliwch eich ffôn yn ofalus oherwydd gall y meicroffon godi symudiad.
  • Rhowch eich ffôn yn y dull ‘airplane’ a mudo eich hysbysiadau. 
  • Recordiwch gofnod ar recordydd eich ffôn ac wedyn ei anfon ar e-bost i [email protected].

"Gall gwrando ar adar eich helpu chi i ymlacio a lleddfu straen, yn enwedig ar amser pan mae pobl yn gaeth i’r tŷ,” meddai cyflwynydd Welsh Connection Lynne Morgan. “Mae’n gyfle i lawer ohonom ni sy’n byw mewn trefi a dinasoedd werthfawrogi synau sydd wedi bod gyda ni erioed, ond eu bod ar goll tu ôl i sŵn bywyd trefol bob dydd."

"Fe fydden ni wrth ein bodd yn clywed synau gwahanol adar o wahanol rannau o Gymru. Rydyn ni hefyd yn cynnwys cyfweliadau am sut i adnabod gwahanol adar ac yn cael clywed gan bobl ddall sy’n hoff iawn o adar. Rydyn ni wedi cael Iolo Williams o 'Winter Watch' ar y BBC yn siarad gyda ni am adar hyd yn oed, ac yn rhoi rhywfaint o gyngor i ni."