Shop RNIB Cyfrannwch nawr

Dawnswyr neuadd ddawns yn cynnal gala codi arian Nadoligaidd i RNIB Cymru

Cynhaliodd Clwb Dawns Sefydliad Penarlâg noson o hwyl a dathliadau yn eu gala Nadolig blynyddol yn Neuadd y Dref Cei Connah ar Lannau Dyfrdwy ar 23ain Tachwedd. Daeth mwy na 100 o bobl i’r digwyddiad gan ddawnsio drwy’r nos i gerddoriaeth fyw gan Paul Crofts, a mwynhau raffl a swper wedi’i gynhyrchu yn lleol.

Bu ysgrifennydd y grŵp dawns, Leslie Barson, 77, o Abermorddu, yn helpu i drefnu’r digwyddiad gyda’i wraig Gill. Mae’r grŵp yn canolbwyntio ar ddawnsio cyfres, sy’n seiliedig ar ffigurau neuadd ddawns safonol. Mae mwy na 30 o bobl yn mynychu sesiynau pnawn Llun y grŵp yn rheolaidd.

Mae’r grŵp yn cynnal dau gala bob blwyddyn er mwyn codi arian i elusennau amrywiol. Roedd y digwyddiad Nadoligaidd eleni yn nawfed gala’r grŵp a chododd £1,000 ar gyfer RNIB Cymru. Cyflwynwyd y siec i wirfoddolowr gyda’r RNIB, Geoff Smith, ar y noson.

Dywedodd Leslie Barson: “Rydyn ni wrth ein bodd gyda llwyddiant ein nawfed gala. Roedd yr awyrgylch yng Nghei Connah yn ardderchog ac roedd mor braf gweld cymaint o wynebau’n gwenu ar y llawr dawnsio. Roedd y lleoliad wedi’i addurno ar gyfer y Nadolig ac felly roedd pawb wedi mynd i ysbryd yr ŵyl ar y noson.

Rydw i mor falch bod yr arian eleni’n mynd i’r RNIB, elusen sy’n gwneud cymaint o waith i wella bywydau pobl ddall ac â golwg rhannol ledled y DU. Rydw i wedi cael problemau gyda fy llygaid yn y gorffennol ac maen nhw wedi fy ngwneud i’n ymwybodol o’r problemau mae pobl ddall ac â golwg rhannol yn eu hwynebu o ddydd i ddydd, felly mae’r RNIB yn elusen agos at fy nghalon i.

“Fe hoffwn i ddweud diolch yn fawr wrth bwyllgor y clwb dawns am ei waith caled yn trefnu’r digwyddiad, i bawb a ddaeth iddo ac i staff y lleoliad am ein helpu ni i greu noson hudolus. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at ein digwyddiad codi arian nesaf ni.”