Shop RNIB Cyfrannwch nawr

Mae aros gartref yn bwysig – ond hefyd gofal llygaid hanfodol: Blog Ansley

Yn ystod y cyfnod digynsail yma, mae’n ddealladwy bod llawer o bobl yn poeni am fynd i ysbyty.

Ond mae’r byd yn dal i droi yn ystod argyfwng y coronafeirws. Nid yw cyflyrau iechyd parhaus wedi diflannu. Mae damweiniau’n dal i ddigwydd ac mae argyfyngau angen sylw o hyd, cyn gynted â phosib.

Mae llawer o apwyntiadau rheolaidd wedi cael eu gohirio nes ei bod yn ddiogel cynnig y gwasanaeth arferol eto. Rydyn ni’n gwybod y bydd yr oedi yma’n creu pryder mawr, ac er ein bod yn cefnogi ymdrechion y gwasanaethau llygaid lleol i wneud penderfyniadau yn ystod y cyfnod anodd yma, mae’n hanfodol bod triniaethau achub golwg yn parhau.

Felly, mewn llawer o sefyllfaoedd, mae ymweliad â chlinig llygaid mewn ysbyty’n hanfodol o hyd. Dylai pobl gyda rhai cyflyrau iechyd llygaid parhaus, fel dirywiad macwlaidd gwlyb, barhau i fynychu eu hapwyntiadau, a rhaid i argyfyngau llygaid, fel datodiad sydyn y retina, gael sylw cyn gynted â phosib. Mae’r rhain yn gyflyrau sensitif i amser sydd angen sylw brys er mwyn sicrhau bod y risg o golled golwg parhaol yn cael ei lleihau.

Rydyn ni’n gwybod y bydd pobl ledled Cymru’n teimlo’n bryderus am ymweld ag unrhyw leoliad gofal iechyd. Mae llawer yn bryderus am risg o haint, neu a yw eu cyflwr yn ddigon difrifol i warantu triniaeth yn ystod y cyfnod yma. Mae eraill yn pryderu y byddant yn faich diangen ar y GIG.

Ond ni ddylai pobl orfod wynebu risg o golli eu golwg yn ddiangen yn ystod argyfwng y coronafeirws.

Rydyn ni eisiau rhoi sicrwydd i bobl ledled Cymru bod popeth posib yn cael ei wneud mewn clinigau llygaid i leihau unrhyw risg o drosglwyddo’r feirws. Mae mesurau arbennig wedi cael eu rhoi ar waith i sicrhau cadw pellter cymdeithasol rhwng cleifion. Ni yw ffrindiau, teulu na gofalwyr yn cael dod i mewn i’r adran yn awr, oni bai fod hynny’n gwbl angenrheidiol.

Mae niferoedd y cleifion yn is ac mae digon o le rhwng pobl wrth iddynt aros. Mae gan y staff i gyd gyfarpar diogelu personol (PPE) ac mae’r cyfarpar yn cael ei lanhau’n fanwl iawn.

Mae’r ymgynghorwyr wedi bod yn gweithio’n galed i weld pa gleifion unigol sydd angen triniaeth barhaus a pha apwyntiadau ellir eu gohirio.

Os nad yw eich apwyntiad wedi gael ei ganslo, mae wedi cael ei farnu fel un angenrheidiol a dylech fynychu yr un fath. Os ydych chi’n poeni am eich ymweliad, gallwch ffonio ysgrifennydd eich ymgynghorydd i drafod eich sefyllfa ac unrhyw bryderon personol sydd gennych chi yn fanwl. Does dim cwestiynau gwirion. Os oes gennych chi unrhyw amheuaeth – gofynnwch.

Mae hefyd yn bwysig cofio bod y gwasanaethau damweiniau llygaid yn gweithredu fel arfer. Os byddwch yn datblygu pryder am eich llygaid neu eich golwg, fel poen sydyn, cochni, goleuadau’n fflachio neu gynnydd mewn siapiau’n nofio, cysylltwch ag optometrydd brys yn eich ardal neu ewch i’r clinig argyfwng llygaid yn eich ysbyty lleol. Mewn sawl achos, gall gweithredu’n gyflym achub eich golwg.

Rydyn ni’n addasu yn wyneb argyfwng cenedlaethol. Bydd yr argyfwng yma’n dod i ben ond, yn y cyfamser, rydyn ni’n gweithio’n galed fel sector i gadw pobl yn ddiogel ac i leihau’r risg o golli golwg yn barhaol.

Ledled Cymru, mae pob practis optometrig ar agor ar gyfer gofal llygaid brys a hanfodol er mwyn parhau i gefnogi’r GIG yn ystod y cyfnod anodd yma. Os oes gennych chi unrhyw bryderon am eich apwyntiadau neu newidiadau sydyn yn eich golwg, y rhain fydd eich pwynt cyswllt cyntaf. Mae rhestr lawn o bob practis sydd ar agor ar gael ar wefan Gofal Llygaid Cymru.

Ar gyfer unrhyw beth arall, o gefnogaeth emosiynol i gyngor ariannol, cysylltwch â Llinell Gymorth yr RNIB ar 0303 123 9999 neu [email protected]. Gall ein cynghorwyr ni gynnig adnoddau, gwybodaeth a chynghorion defnyddiol i wneud bywyd ychydig yn haws yn ystod y cyfnod anodd yma.