Gall cael gafael ar lyfrau, cylchgronau a thestun arall mewn amrywiaeth o fformatau fod yn achubiaeth i bobl o bob oed sy'n byw gyda chyflyrau llygaid.
Rydym yn credu y dylai pawb allu darllen llyfrau cyffrous, ysbrydoledig mewn fformat sy'n gweddu orau iddynt hwy.
Mae hyn yn arbennig o bwysig i blant a phobl ifanc sydd efallai'n cydio yn eu llyfr cyntaf. Gall un stori dda gael effaith enfawr, gan helpu plentyn i ddatblygu angerdd gydol oes dros ddarllen.
Dyma pam ein bod yn dathlu Diwrnod Llyfr y Byd drwy roi miloedd o lyfrau mewn braille a fformatau sain i blant â cholled golwg ledled Cymru.
Nod y detholiad o 13 teitl yw cefnogi cenhadaeth Diwrnod Llyfr y Byd o roi llyfr ei hun i bob plentyn a pherson ifanc.
Mae'r teitlau'n cynnwys llyfr Cymraeg, Ha Ha Cnec, gan y darlunydd o Gaerdydd, Huw Aaron, sy'n llawn jôcs a chartwnau.
Yn cael ei drefnu gan UNESCO, mae Diwrnod Llyfr y Byd yn cael ei ddathlu mewn mwy na 100 o wledydd ledled y byd, a 2021 yw’r 24ain flwyddyn o ddathliadau.
Mae trefnwyr Diwrnod Llyfr y Byd yn annog rhieni, plant a phobl ifanc o bob oed i dreulio o leiaf 10 munud y dydd yn rhannu llyfr gyda'i gilydd ac yn dathlu darllen er pleser, gan helpu i hyrwyddo lles i bawb.
Dywed ein Cyfarwyddwr Ansley: "Rydyn ni’n falch iawn o gefnogi Diwrnod Llyfr y Byd eleni. Gall darllen agor byd o bosibiliadau a gwella'r dychymyg, a dyma pam ei bod mor bwysig i bob plentyn (ac oedolyn) allu mwynhau llyfrau o'u dewis.
"Mae'r fersiynau braille a sain o lyfrau rydyn ni wedi'u creu yn sicrhau bod plant dall ac â golwg rhannol yn gallu darganfod y straeon hyn yn union fel unrhyw blentyn arall a rhannu'r cyffro ar Ddiwrnod Llyfr y Byd eleni."
Dyma’r teitlau sydd ar gael:
I hawlio llyfr am ddim mewn braille neu fformat sain (DAISY CD), ffoniwch ein llinell gymorth ar 0303 123 9999 neu e-bostio [email protected] Bydd y llyfrau ar gael am ddim tan 31 Mawrth 2021.