Shop RNIB Cyfrannwch nawr

Rhaid i newidiadau dros dro i’n strydoedd ni fod yn hygyrch i bobl â cholled golwg

Wrth i fesurau cyfyngiadau symud y coronafeirws gael eu llacio’n raddol, mae Llywodraethau ledled y DU yn cynllunio i wneud newidiadau dramatig i’n strydoedd ni.

Nod y mesurau newydd hyn, rhai dros dro a rhai parhaol, yw galluogi cadw pellter cymdeithasol diogel ac annog symud tuag at drafnidaeth lesol fwy cynaliadwy.

Newidiadau cyflym

Yn ninasoedd Cymru, mae patrymau stryd newydd yn dechrau cael eu cyflwyno, gan ddefnyddio conau a rhwystrau i ledu llwybrau troed ar hyd ffyrdd er mwyn darparu mwy o ofod a galluogi pobl i gadw pellter cymdeithasol.Ond fel mae llawer ohonom ni’n gwybod eisoes, nid yw conau, tâp na mesurau dros dro eraill yn addas i bobl â cholled golwg. Nid yw cŵn tywys yn gweld y rhain fel rhwystrau cadarn a byddant yn ceisio mynd drwyddynt. Mae’r rhain yn anodd eu canfod gan ddefnyddio ffyn hefyd. 

Gall arwyddion dros dro newydd achosi anaf i bobl ddall ac â golwg rhannol sy’n ceisio symud hyd y lle, ac mae dangosyddion gweledol fel llinellau wedi’u paentio ar y ffordd yn anodd neu’n amhosib eu gweld yn aml. Ac mae creu ‘gofod sy’n cael ei rannu’ ar gyfer beicwyr a cherddwyr yn creu perygl i bobl sydd â cholled golwg, nad ydynt bob amser yn ymwybodol bod beicwyr yn dod tuag atynt.   

Ystyried yr effaith

Dyma pam rydym yn ymgyrchu gyda Cŵn Tywys Cymru a chynghrair o elusennau i sicrhau bod unrhyw fesurau trafnidiaeth dros dro newydd yng Nghymru’n ystyried yr effaith yn y tymor hir ar y gymuned ddall ac â golwg rhannol. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi Cod Cwrteisi’r Coronafeirws sy’n ceisio hybu cadw pellter cymdeithasol diogel i bob cerddwr a phob defnyddiwr ar ffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus. Hefyd rhaid i Lywodraeth Cymru ddarparu canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol i sicrhau nad yw pobl â cholled golwg a phobl anabl eraill yn wynebu anfantais annheg oherwydd y newidiadau i’r amgylchedd adeiledig, neu unrhyw fesurau eraill a roddir ar waith fel ymateb i’r coronafeirws.

Rydym yn cefnogi newid tuag at deithio mwy cynaliadwy yn llawn. Ond gyda chadw pellter cymdeithasol yn debygol o fod yn ei le am beth amser, rydym eisiau sicrhau y bydd unrhyw newidiadau dros dro i’n strydoedd ni’n galluogi i bobl â cholled golwg a phobl anabl eraill barhau i symud o gwmpas yn ddiogel.  

Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan batrymau seilwaith newydd yn eich ardal ac os hoffech gymryd rhan yn yr ymgyrch yma, cysylltwch â [email protected].   

Os hoffech chi drafod cadw pellter cymdeithasol diogel a phroblemau hygyrchedd yn ystod pandemig y coronafeirws, cysylltwch â llinell gymorth yr RNIB ar 0303 123 9999 neu [email protected].