Shop RNIB Cyfrannwch nawr

RNIB Cymru yn gwthio am ddefnydd diogel o ddeddfwriaeth coronafeirws frys

Mae RNIB Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau nad yw pobl sydd â cholled golwg yn wynebu anfantais oherwydd y ddeddfwriaeth coronafeirws newydd.

Mae’r coronafeirws yn un o’r heriau mwyaf mewn cenhedlaeth. Rydyn ni i gyd wedi profi rhyw fath o darfu ar ein bywydau yn ystod yr wythnosau diwethaf a thra mae’r brig wedi mynd heibio yn ôl pob tebyg, mae’n debygol y bydd cryn amser eto cyn i bethau ddychwelyd i fod yn normal.  

Ond yn ein sectorau iechyd a gofal cymdeithasol ni mae effaith y pandemig i’w theimlo fwyaf. I helpu’r gwasanaethau hanfodol hyn i ymdopi â heriau’r coronafeirws, cafodd Deddf Coronafeirws 2020 ei phasio yn rhan o gyfraith y DU ar 25 Mawrth.  

Ymhlith y newidiadau niferus a ddaeth i rym yn sgil y ddeddf hon, mae Awdurdodau Lleol Cymru yn gallu oedi rhai o’u dyletswyddau yn awr yn gysylltiedig â gwasanaethau cymdeithasol i oedolion, os yw’r gweithlu’n llai oherwydd y feirws.

Codi’r materion sy’n effeithio ar bobl â cholled golwg

Gofynnwyd i RNIB Cymru, ynghyd ag elusennau a sefydliadau eraill, helpu Llywodraeth Cymru i ddrafftio cyfarwyddyd ar gyfer awdurdodau lleol a sicrhau, pe bai rhaid defnyddio’r mesurau digynsail hyn, y gellid eu rhoi ar waith yn y ffordd fwyaf diogel posib.  

Rydyn ni wedi defnyddio’r cyfle hwn i fynegi ein pryderon am beth allai hyn ei olygu i bobl ddall ac â golwg rhannol sy’n dibynnu ar wasanaethau gofal a chefnogi er mwyn cynnal lles personol ac annibyniaeth ac i fyw yn ddiogel.

Cyhoeddodd y llywodraeth ei chyfarwyddyd terfynol ar 30 Ebrill ac roeddem yn falch o ddweud bod nifer o newidiadau wedi cael eu gwneud fel ymateb i’n hargymhellion.  

  • Yn gyntaf, aethom ati i alw ar y cyfarwyddyd wedi’i ddiweddaru i ddatgan yn glir bod rhaid i awdurdodau lleol barhau i ddiweddaru a chynnal y cofrestri o bobl sydd â cholled golwg. Mae hon yn ddyletswydd bwysig ac mae’n gofyn i gynghorau nodi a sicrhau cyswllt â’r rhai sydd â cholled golwg.   
  • Yn ail, dywedwyd yn glir gennym bod rhaid i unrhyw benderfyniad neu newid mewn gwasanaeth gael ei gyfathrebu i’r person sydd wedi’i effeithio mewn ffordd sy’n gweithio iddo ef. Buom yn dadlau nad yw’n dderbyniol i bobl sydd â cholled golwg orfod dibynnu ar eraill i ddarllen gwybodaeth a all fod yn bersonol ac yn sensitif, felly rhaid i’r holl gyfathrebu fod mewn fformat hygyrch y gallant ei ddefnyddio’n bersonol.  
  • O ganlyniad, mae’r cyfarwyddyd newydd yn datgan yn glir yn awr bod rhaid i awdurdodau lleol ystyried cyflyrau ac anghenion cyfathrebu penodol, fel colled golwg, pan maent yn cyfathrebu yn y dyfodol.  

Yn olaf, mae’r cyfarwyddyd yn datgan yn benodol yn awr nad yw’r egwyddorion gofal cymdeithasol sylfaen wedi newid. Mae hyn yn golygu bod gwasanaethau ataliol sy’n lleihau’r angen am ofal pellach, fel adfer golwg, yn parhau’n flaenoriaeth. Er ein bod yn hapus gyda’r newidiadau hyn, mae RNIB Cymru yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru er mwyn dylanwadu ar bolisi a sicrhau bod anghenion pobl sydd â cholled golwg yn cael eu hystyried yn ystod y cyfnod digynsail yma.