Shop RNIB Cyfrannwch nawr

Cyflogaeth

Yng Nghymru mae tua 4,200 o bobl wedi cofrestru fel pobl ddall neu â golwg rhannol mewn oedran gweithio.

Llun: Dyn sy'n gwenu mewn siwt yn ysgwyd llaw â dyn arall

Dywedodd ychydig dros chwarter y bobl sydd wedi cofrestru fel pobl ddall ac â golwg rhannol eu bod wedi gadael eu swydd ddiwethaf oherwydd eu bod wedi dechrau colli eu golwg neu oherwydd dirywiad yn eu golwg. Ond mae llawer o bobl yn dweud wrthym y gallent fod wedi parhau yn eu swydd pe baent wedi cael y gefnogaeth gywir. Rydym eisiau cefnogi cymaint o bobl ddall ac â golwg rhannol ag y gallwn ni i aros mewn gwaith ac rydym yn credu na ddylai colli golwg arwain at golli swydd.

Sut gallwn ni helpu?

  • Cyflogeion: byddwn yn eich cefnogi i aros yn eich swydd os ydych yn cael anawsterau sy'n gysylltiedig â cholled golwg. 
  • Cyflogwyr: rydym yn cynghori ar y ffordd orau o gefnogi cyflogeion sydd â cholled golwg, a sut i wneud addasiadau rhesymol i'r gweithle ac arferion gwaith. 
  • Ceiswyr gwaith: rydym yn eich helpu i ddod o hyd i sefydliadau lleol sy'n gallu cynnig asesiad sgiliau, arweiniad a chyngor.
  • Sefydliadau: byddwn yn rhoi cyngor i ddarparwyr cyn cyflogi sy'n cefnogi pobl ddall ac â golwg rhannol i ddod o hyd i swydd.

Sut gallwn ni helpu?

  • Mae tîm Cyflogaeth RNIB Cymru yn rhoi cyngor ac atebion ymarferol i gyflogwyr a chyflogeion er mwyn cadw pobl ddall ac â golwg rhannol mewn cyflogaeth.
  • Rydym yn gweithio gyda chyflogwyr i annog polisïau recriwtio cadarnhaol.
  • Rydym yn gweithio gyda sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau cyflogadwyedd i feithrin eu gwybodaeth fel y gallant gefnogi pobl ddall ac â golwg rhannol.
  • Rydym yn darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth weledol.
  • Rydym yn cynghori pobl sydd â cholled golwg a'u cyflogwyr ar atebion ymarferol i broblemau yn y gwaith, gan gynnwys y defnydd o dechnoleg.

Am fwy o wybodaeth ewch i’n tudalennau Cydraddoldeb, Hawliau a Chyflogaeth ar y we.

Cysylltu â ni

Dros y ffôn: 0303 123 9999

Ar e-bost: [email protected]